Ein myfyriwr PhD, Cem Soner, yn cyflwyno ei ymchwil yng Nghynhadledd Ddoethurol IPSIG Cymdeithas Cyfrifeg a Chyllid Prydain (BAFA)
Cyflwynodd ein myfyriwr PhD, Cem Soner, ei ymchwil yng Nghynhadledd Ddoethurol IPSIG Cymdeithas Cyfrifeg a Chyllid Prydain (BAFA) ar y 3ydd o Orffennaf 2023. Nod y gynhadledd oedd creu cyfleoedd rhwydweithio rhwng ymchwilwyr 么l-radd eithriadol ac ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa sydd 芒 diddordeb mewn safbwyntiau rhyngddisgyblaethol a beirniadol ar gyfrifeg a chyllid. Cynhaliwyd y digwyddiad gan Ysgol Fusnes Prifysgol Dinas Birmingham.
Cyflwynodd Cem ei bapur ymchwil 鈥淭he Impact of Brexit on SME Lending in the UK,鈥 a chafodd dderbyniad da gan y gynulleidfa, gan ennyn cryn ddiddordeb ymhlith y rhai a oedd yna, gan gynnwys ysgolheigion blaenllaw ym maes cyfrifeg a chyllid. Canmolwyd y cyflwyniad am ei wreiddioldeb a鈥檌 ddirnadaeth o faes polisi, gyda鈥檙 papur yn datgelu effaith andwyol Brexit ar fenthyca i fusnesau bach, gyda phwyslais ar wahaniaethau rhanbarthol.
Mae ymchwil Cem yn canolbwyntio ar effaith Brexit ar fentrau bach a chanolig, sef 99% o fusnesau a 60% o gyflogaeth economi鈥檙 DU. Mae鈥檙 astudiaeth yn defnyddio dull gwahaniaeth-mewn-gwahaniaethau gydag effeithiau sefydlog ac yn canfod y bu i fusnesau bach fenthyca 1.35% yn llai yn y chwarter yn syth ar 么l pleidlais Brexit (2016-C3) o鈥檌 gymharu 芒鈥檙 sefyllfa mewn carfan debyg o wledydd Ewropeaidd sydd 芒 pherthynas fasnach bur glos 芒鈥檙 DU. Mae'r crebachiad benthyca hefyd yn arwyddocaol yn y ddau chwarter llog arall, sef chwarter cyntaf 2017 (proses Erthygl 50) a thrydydd chwarter 2018 (Uwchgynhadledd Salzburg).
Mae'r astudiaeth hefyd yn archwilio effaith Brexit yn y DU ac yn ymchwilio a oes unrhyw effeithiau anghymesur ar draws Ardaloedd Awdurdod Lleol. Defnyddir dull gwahaniaeth-mewn-gwahaniaethau gydag effeithiau sefydlog a chanfyddir crebachiad benthyca blynyddol o 4.8% ar gyfer Ardaloedd Awdurdod Lleol gwledig a 6.1% ar gyfer Ardaloedd Awdurdod Lleol ymylol yn 2016. Mae'r canlyniadau hefyd yn arwyddocaol ar gyfer y blynyddoedd yn dilyn y refferendwm, ond mae'r effaith andwyol yn lleihau dros amser.
Mae Cem hefyd yn archwilio a oes crebachiad gormodol ar fenthyca i fusnesau bach yn yr Ardaloedd Awdurdod Lleol sydd 芒 chyfran uchel o allforion i鈥檙 UE y pen oherwydd ansicrwydd masnach a achosir gan Brexit. Dengys y dadansoddiad fod benthyca i fusnesau bach wedi crebachu yn y 15 Ardal Awdurdod Lleol a oedd yn allforio fwyaf - o 3.2% yn 2016 ac o 5.2% a 2.2% yn y ddwy flynedd ddilynol. Mae'r canlyniad hwn hefyd yn gyson ar gyfer y 25 Ardal Awdurdod Lleol sy鈥檔 allforio fwyaf.
Fodd bynnag, nid yw'r canlyniadau'n arwyddocaol ar gyfer Ardaloedd Awdurdod Lleol gyda chyfanswm masnach uwch y pen. Cefnoga hyn ymhellach y ddamcaniaeth o lai o fenthyca mewn Ardaloedd Awdurdod Lleol sy鈥檔 allforio i鈥檙 UE, yn hytrach na gweddill y byd, oherwydd ansicrwydd masnach gyda'r UE.
Bydd canlyniadau鈥檙 astudiaeth hon yn llywio ac yn cyfoethogi鈥檙 ddadl barhaus ar effaith Brexit ar economi鈥檙 DU. Mae鈥檙 canfyddiadau empirig yn cadarnhau bod Brexit yn cael effaith sylweddol ar fusnesau bach. Ceir tystiolaeth gadarn hefyd o wahaniaethau rhanbarthol ar draws y DU, lle mae ardaloedd gwledig ac ymylol yn cael eu heffeithio鈥檔 ormodol gan y sioc andwyol. Awgryma鈥檙 canlyniadau y dylai llunwyr polisi gydnabod yr effaith anghyfartal hon ar draws rhanbarthau wrth ddylunio polis茂au sy'n hwyluso mynediad at gyllid i fusnesau bach a chanolig, a thrwy hynny "wastad谩u" economi'r DU trwy gefnogi busnesau bach mewn ardaloedd ymylol a gwledig.
Bu鈥檙 gynhadledd yn brofiad gwerthfawr i Cem ac yn gymorth iddo rwydweithio ag ysgolheigion eraill yn ei faes a derbyn sawl sylw cadarnhaol. Mae'n ddiolchgar am y cyfle hwn ac yn edrych ymlaen at barhau 芒'i ymchwil ym maes cyllid.