Dr.David Law
Gyda thristwch yr ydym yn rhannu鈥檙 newyddion am farwolaeth Dr David Law, cyn-ddarlithydd ac ymchwilydd mewn economeg yn Ysgol Busnes Bangor, a fu farw鈥檔 dawel yn Aberystwyth ar 25 Mawrth 2022.
Bu David yn dysgu ym Mhrifysgol Belfast tan 1964. Ymunodd ag Aberystwyth wedyn, gan symud ymlaen yn gyflym o fod yn ddarlithydd i fod yn Uwch ddarlithydd. Ar 么l lled-ymddeol, parhaodd David i ddysgu a chynnal ymchwil ym mhrifysgolion Aberystwyth, Bangor, Morgannwg ac Abertawe. Bu鈥檔 dysgu ym Mangor rhwng 2002 a 2012 a bu鈥檔 Gymrawd Ymchwil ar Ymweliad er Anrhydedd er 2003.聽
Diddordeb deallusol a datrys problemau oedd yn ysgogi ei yrfa ymchwil. Gwnaeth gyfraniadau pwysig i Economeg Ranbarthol a Newid Diwydiannol, Economeg Datblygu ac yn ddiweddarach Rhagolygon a Chyllid. 聽
Ym maes Economeg Ranbarthol, roedd ganddo ddiddordeb yn effaith economaidd newid diwydiannol a pholisi ar yr Alban, Iwerddon a Chymru. Roedd yn cael ei dynnu鈥檔 arbennig at eu heffeithiau ar ddeinameg poblogaeth ardaloedd gwledig. Ysgrifennodd yn helaeth ar y testun hwn a chyfrannodd yn sylweddol at ddeall y problemau economaidd mewn ardaloedd ymylol megis Canolbarth Cymru a Slofenia.
Ym maes Economeg Datblygu, bu鈥檔 gweithio鈥檔 agos gyda鈥檙 diweddar P.N. Mathur yn Aberystwyth, ysgolhaig blaenllaw ym maes Economeg Mewnbwn-Allbwn. Roedd gan David ddiddordeb mewn defnyddio鈥檙 dechneg i olrhain trwy effeithiau polisi ar incwm cyfanredol, allbwn a chyflogaeth. Ymddangosodd nifer o gyhoeddiadau ar y cyd mewn cyfnodolion cenedlaethol a rhyngwladol.
Yn ddiweddarach ac ar 么l ei ymddeoliad o Aberystwyth pan fyddai'r rhan fwyaf o bobl yn meddwl am fywyd mwy hamddenol, y bu i David fod yn fwyaf cynhyrchiol. Gan weithio'n agos gyda chyn gydweithwyr yn Aberystwyth datblygodd ddiddordeb mawr mewn Marchnadoedd Ariannol ac yna ystod eang o bapurau yn ymdrin 芒 Rhagolygon Cyllidebol, Effeithlonrwydd y Farchnad, Masnachu Mewnol ac Economeg Gamblo.聽
Roedd dysgeidiaeth David, fel ei ymchwil, yn cwmpasu maes eang. Dysgodd Economeg Ddiwydiannol, Polisi Economaidd ac Economeg Datblygu i israddedigion ac economeg reolaethol i fyfyrwyr MBA. Roedd ei ddarlithoedd yn addysgiadol, yn ysgogol ac yn hynod ddifyr. Un o sgiliau mawr David oedd ei fod yn gallu egluro materion cymhleth mewn modd syml a chlir - roedd y myfyrwyr yn elwa鈥檔 fawr iawn ar ei addysgu rhagorol. Anogodd David y myfyrwyr i gwestiynu'r hyn yr oeddent yn ei ddysgu a holi pam, a pheidio byth 芒 derbyn y dehongliadau safonol. Bu'n oruchwyliwr PhD cydwybodol iawn ac yn gyfrannwr sylweddol at ddatblygu Ysgol Graddedigion Aberystwyth gyda鈥檙 Athro Mathur. Daeth llawer o'i fyfyrwyr PhD yn ffrindiau oes.
Fel cydweithiwr roedd David yn unigolyn hael a roddodd o鈥檌 amser yn hael. Mae cyn gydweithiwr wedi dweud 鈥淩oeddech chi鈥檔 dysgu llawer wrth weithio gyda David. Roedd yn eich gorfodi i ysgrifennu'ch tybiaethau'n glir a gwirio'ch data yn ofalus. Pryd bynnag y byddech chi鈥檔 rhoi papur drafft iddo i wneud sylwadau arno, byddai鈥檔 ei ddarllen yn ofalus ac roedd ei awgrymiadau'n ei wneud yn well ac yn aml yn wahanol, yn fwy diddorol a pherthnasol鈥.
Bydd cyn-gydweithwyr a myfyrwyr yn gweld eisiau ei hiwmor, ei gwmni a鈥檙 grym diamheuol o bositifrwydd a ddaeth i鈥檞 bywydau.