Adroddiad yn dangos cyfleoedd wrth gyflwyno ardoll ymwelwyr yng Nghymru
Heddiw mae Prifysgol Bangor wedi cyhoeddi adroddiad ar effaith ardoll ymwelwyr o amgylch y byd, ar yr un diwrnod, ddydd Llun, 25 Tachwedd 2024, mae Llywodraeth Cymru yn cyflwyno Bil i鈥檙 Senedd er mwyn rhoi pwerau i Awdurdodau Lleol gyflwyno ardoll ymwelwyr.
Mae鈥檙 adroddiad, sydd wedi鈥檌 ariannu gan Lywodraeth Cymru, yn dadansoddi ardoll ymwelwyr mewn saith cyrchfan rhyngwladol. Mae鈥檔 nodi argymhellion clir ar sut y dylai Awdurdodau Lleol weithredu鈥檙 dreth newydd yma yng Nghymru. Mae鈥檙 rhain yn canolbwyntio ar sut y dylid talu鈥檙 refeniw o鈥檙 dreth, a sut y dylid gwerthuso effaith y gwariant hwnnw.
鈥淢ae twristiaeth yn rhan bwysig o economi Cymru, ond ar hyn o bryd mae cyflogau isel a swyddi tymhorol yn gyffredin, ac nid yw wastad yn dod 芒 manteision mawr i gymunedau鈥 聽medd Dr Rhys ap Gwilym, Uwch Ddarlithydd mewn Economeg yn Ysgol Busnes Bangor. Cynhaliodd Rhys yr ymchwil gyda'i gydweithiwr Dr Linda Osti, Uwch Ddarlithydd mewn Rheoli Twristiaeth, Prifysgol Bangor.
鈥淢ae gan yr Ardoll Ymwelwyr y potensial i drawsnewid y sector yng Nghymru, cyn belled 芒 bod cynghorau yn dilyn yr arfer gorau rhyngwladol yr ydym wedi鈥檌 gyflwyno yn yr adroddiad hwn,鈥 meddai Rhys.
Tynnodd Dr Linda Osti 聽sylw at Sefydliadau Rheoli Cyrchfan (DMOs) yn Ne Tyrol, yr Eidal, a sefydlwyd i hwyluso eu treth dwristiaeth. 鈥淢ae DMOs ar lefel leol yn defnyddio refeniw ardoll er budd y sector twristiaeth ac er lles cymunedau lleol. Rydym wedi gweld enghreifftiau o鈥檙 cronfeydd hynny sy鈥檔 cefnogi tai fforddiadwy, trafnidiaeth gyhoeddus, a hyd yn oed noddi gorsafoedd radio lleol. Gallai sefydliadau o鈥檙 fath fod o fudd mawr i Gymru.鈥
Mae鈥檙 astudiaeth yn dadansoddi ardoll ymwelwyr mewn saith cyrchfan rhyngwladol ac yn bennu argymhellion clir ar sut y dylai Awdurdodau Lleol weithredu鈥檙 dreth newydd yma yng Nghymru. Mae鈥檙 rhain yn canolbwyntio ar sut y dylid talu鈥檙 refeniw o鈥檙 dreth, a sut y dylid gwerthuso effaith y gwariant hwnnw.
Dywedodd Linda, 鈥渄ylai prosiectau a ariennir gyd-fynd ag amcanion clir, boed wedi鈥檜 hanelu at wella cynaliadwyedd y diwydiant twristiaeth neu gefnogi llesiant diwylliannol, cymdeithasol neu amgylcheddol y cymunedau sy鈥檔 eu cynnal.鈥 Mae 聽Rhys yn cytuno, ac mae鈥檔 galw 聽hefyd am dryloywder o ran manylion gweithgareddau a ariennir i adeiladu ymddiriedaeth y cyhoedd a sicrhau atebolrwydd.