A yw Gweithredu Gwleidyddol-Gymdeithasol Corfforaethol o Bwys? Yr hyn a wyddom o ymddygiad Buddsoddwyr Manwerthu
Mae'n fis Hydref a'r mis yma rydym yn archwilio mudiad cymdeithasol pwysig a'i effaith ar 'gynnal busnes' gyda Dr Ayan Orujov; Darlithydd Cyllid yn Ysgol Busnes Bangor. Mae Black Lives Matter (BLM) yn rhan o Ymgyrchu Gwleidyddol-Gymdeithasol ac mae鈥檙 modd y mae mudiadau o'r fath yn llywio ac yn cael eu llywio gan fusnes yn dod o dan yr hyn a elwir yn 'Ymgyrchu Gwleidyddol Gymdeithasol Corfforaethol'. Mae Ayan yn ymuno 芒 ni, yn ystod mis Black Lives Matter, i drafod ei ymchwil yntau a鈥檌 gydweithwyr i ymgyrchu gwleidyddol-cymdeithasol corfforaethol mewn buddsoddiadau manwerthu. Mudiad gwleidyddol a chymdeithasol datganoledig yw BLM sy'n ceisio rhoi sylw at hiliaeth, camwahaniaethu, ac anghydraddoldeb hil a brofir gan bobl ddu. Felly, sut mae buddsoddwyr yn ymateb i gwmn茂au sy'n mynegi cefnogaeth i BLM a pha ffactorau sy'n gwneud cwmni'n fwy tebygol o gefnogi'r mudiad? Ymunwch 芒 ni i wrando ar Ayan a gwrando ar safbwyntiau a chanfyddiadau ei ymchwil a鈥檙 dystiolaeth iddynt.
Darlithydd mewn Cyllid yn Ysgol Busnes Bangor yw Dr Ayan Orujov. Mae ganddo diddordeb academaidd brwd yn ymddygiad buddsoddwyr manwerthu yn enwedig o ran cynaliadwyedd a moeseg. Mae ei waith wedi ei gyhoeddi鈥檔 rhyngwladol. Cyhoeddodd bapurau鈥檔 ddiweddar yn y Journal of Corporate Finance ac International Journal of the Economics of Business.
Gwrandewch nawr -聽/cy/ybb/podlediadau