Y 17eg Symposiwm Doethurol Rhyngwladol Cyfrifeg a Chyllid (IAFDS)
Bu 17eg Symposiwm Doethurol Rhyngwladol Cyfrifeg a Chyllid (IAFDS) a gynhaliwyd rhwng 16 - 18 Mehefin ym Mhrifysgol Parthenope, yn arddangos doniau myfyrwyr PhD trydedd flwyddyn Prifysgol Bangor, Chiara Lo Re, Cem Soner, a Hong Ngoc Nguyen. Gyda chefnogaeth Ysgol Busnes Bangor (BBS), cyflwynodd y myfyrwyr eu papurau ymchwil a chawsant adborth cadarnhaol gan gynrychiolwyr a chadeiryddion sesiynau.
Cyflwynodd Chiara Lo Re ei phapur "The Impact of the Bank Recovery and Resolution Directive (BRRD) on Banks’ Deposit and Debt Ratings." Bu Cem Soner yn trafod ei ymchwil ar "The Impact of Brexit on SME Lending in the UK," a bu Hong Ngoc Nguyen yn cyflwyno ei bapur, "Green Bonds in Europe: Unveiling the Links Between ESG Performance, Sovereign Issuance, and Corporate Market Responses."
Cafodd y symposiwm, a oedd yn anelu at wella sgiliau ymchwil a galluoedd myfyrwyr doethurol, ei drefnu ar y cyd â phrifysgolion o fri o Awstralia, Ewrop a'r Deyrnas Unedig. Ymhlith y sefydliadau a gymerodd ran roedd Prifysgol Bond, Ysgol Busnes SKEMA, Prifysgol SOAS Llundain, Università di Bologna, Prifysgol Leeds, Prifysgol Lerpwl, Prifysgol Queensland, ac Ysgol Busnes Prifysgol Strathclyde.
Bu’r Dr. Binru Zhao’n bresennol yn y digwyddiad hefyd a bu’n cadeirio un o'r sesiynau, a chanmolodd berfformiad eithriadol myfyrwyr PhD Bangor. "Perfformiodd pob un o'r myfyrwyr yn arbennig o dda, gan gymryd rhan mewn trafodaethau manwl a derbyn adborth clodwiw yn y sesiynau un-i-un gyda chadeiryddion y sesiwn" meddai Binru.
Roedd y digwyddiad hwn nid yn unig yn arddangos galluoedd ymchwil myfyrwyr PhD Bangor mi wnaeth hefyd wella enw da'r brifysgol yn ddirfawr ac ehangu rhwydwaith academaidd Ysgol Busnes Bangor ledled Awstralia, y Deyrnas Unedig ac Ewrop.
Ìý