Trosolwg o'r prosiect
Er mwyn gwneud gêm rygbi yn fwy diogel i ferched, yn fwy pleserus ac i gynyddu cyfranogiad, dwy o flaenoriaethau ymchwil lles chwaraewyr Rygbi’r Byd yw ariannu (i) ymchwil lles chwaraewyr mewn rygbi merched, a (ii) gwyliadwriaeth anafiadau ac ymchwil atal anafiadau ar bob lefel o’r gêm.
Dyma’r astudiaeth ymchwil gyntaf yn fyd-eang i fynd i’r afael â’r diffyg gwybodaeth risg anafiadau sydd ar gael mewn rygbi merched ifanc, yn benodol yn y gêm gymunedol. Drwy roi’r chwaraewr yn gyntaf, rydym yn gobeithio nodi risgiau lles i chwaraewyr benywaidd ifanc, ymchwilio i ffyrdd o leihau’r risgiau hyn a datblygu a rhannu canllawiau arfer gorau.
Sut rydym yn bwriadu gwneud hyn
Dros 3 blynedd byddwn yn cofnodi anafiadau mewn gemau rygbi merched i asesu’r risg. Byddwn yn casglu’r wybodaeth hon ar gyfer merched rhwng 7 a 18 oed o hybiau merched URC, gemau ysgolion uwchradd a chlybiau lleol yn rhanbarth Gogledd Cymru.
Ein Partneriaid
Tîm Ymchwil
Eloise Kirby
Mae Eloise wedi'i chofrestru fel ymchwilydd PhD ym Mhrifysgol Bangor a bydd yn gweithio'n llawn amser yn casglu a phrosesu data ac yn dadansoddi'r data. Bydd Eloise hefyd yn ‘wyneb’ i’r prosiect a bydd yn ymgysylltu â rhanddeiliaid drwy gydol y prosiect 3 blynedd.
Mae Eloise yn chwaraewr rygbi gweithgar yn cynrychioli Tîm Rygbi Merched Caernarfon ac yn Gapten Clwb Rygbi Undeb y Merched ym Mhrifysgol Bangor.
Ìý
Am fwy o wybodaeth neu i gysylltu â ni anfonwch e-bost atom ar:Ìý