Paratoi ein myfyrwyr ar gyfer y dyfodol听
Mae profiad gwaith yn holl bwysig i sicrhau swydd raddedig yn y dyfodol. Rydym yn cynnig amrywiaeth o opsiynau i ennill sgiliau cyflogadwyedd gwerthfawr, sy'n cynnwys eich cefnogi mewn lleoliadau gwaith ac interniaethau.
Er mwyn rhoi hwb i'ch cyflogadwyedd gallwch ddewis gwneud lleoliad gwaith fel rhan o bron pob gradd israddedig a gynigiwn. Gall lleoliadau fod yn flwyddyn o hyd (a gymerir rhwng blynyddoedd 2 a 3), 3 mis neu pythefnos (o leiaf 70 awr, a gymerir yn ystod blwyddyn 2).
Blwyddyn Lleoliad
Gallwch ddewis astudio鈥檙 rhan fwyaf o鈥檔 cyrsiau israddedig gyda Blwyddyn ar Leoliad. Mae'r myfyrwyr yn gwneud y Flwyddyn ar Leoliad ar ddiwedd yr ail flwyddyn ac maent i ffwrdd o'r Brifysgol am y flwyddyn academaidd gyfan.
Mae Blwyddyn ar Leoliad yn gyfle gwych i chi ehangu eich gorwelion a datblygu sgiliau a chysylltiadau hynod ddefnyddiol trwy weithio gyda sefydliad sy'n berthnasol i bwnc eich gradd. Y cyfnod lleiaf ar leoliad (mewn un lleoliad neu fwy nag un lleoliad) yw saith mis calendr; fel rheol mae myfyrwyr yn treulio 10-12 mis gyda darparwr lleoliad. Byddwch fel rheol yn dechrau rywbryd yn y cyfnod rhwng mis Mehefin a mis Medi yn eich ail flwyddyn ac yn gorffen rhwng mis Mehefin a mis Medi y flwyddyn ganlynol. Gall y lleoliad fod yn y Deyrnas Unedig neu dramor a byddwch yn gweithio gyda'r staff i gynllunio a chwblhau trefniadau eich lleoliad.
Bydd disgwyl i chi ddod o hyd i leoliad sy'n addas i'ch gradd, a'i drefnu, ac mi gewch chi gefnogaeth lawn gan aelod pwrpasol o staff eich Ysgol academaidd a Gwasanaethau Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd y Brifysgol.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar 么l cychwyn eich cwrs ym Mangor a gallwch wneud cais i drosglwyddo i'r opsiwn hwn ar yr adeg priodol.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar 么l cychwyn eich cwrs ym Mangor a gallwch wneud cais i drosglwyddo i'r opsiwn hwn ar yr adeg priodol. Os oes gennych unrhyw gwestiynau yn y cyfamser, siaradwch 芒'ch Tiwtor Personol, neu am gyngor ac arweiniad cyffredinol.
听
Sylwch:听codir ffi am bob lleoliad, rhyngosod a blynyddoedd rhyngwladol. Byddwch yn gallu cael manylion llawn pan fyddwch wedi dechrau eich cwrs ym Mangor, ond yn y cyfamser, gallwch gael cipolwg yma.