Rydym ni eisiau i chi setlo i mewn mor gyflym 芒 phosibl a mwynhau eich bywyd myfyriwr i'r eithaf. O鈥檙 munud byddwch yn cyrraedd, byddwch yn cael cymaint o help a chefnogaeth ag sydd eu hangen arnoch.
Tiwtor Personol
Mae pob myfyriwr hefyd yn cael Tiwtor Personol yn yr ysgol academaidd lle maent yn astudio. Bydd y Tiwtor Personol yn gallu eich helpu ag unrhyw broblem neu gwestiwn yngl欧n 芒'ch cwrs.聽
Gwasanaethau Myfyrwyr
Mae Gwasanaethau Myfyrwyr yno i'ch helpu gyda phob math o agweddau o'ch bywyd fel myfyriwr. Yno cewch gymorth gyda materion cyllid, cymorth astudio, materion anabledd, iechyd meddwl, cynghori, tai myfyrwyr, darpariaeth ffydd, iechyd a lles a chymorth ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol.
Swyddfa Llety
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu bryderon yngl欧n 芒 llety myfyrwyr, mae ein Swyddfa Neuaddau yno i'ch helpu. Ewch i'n tudalennau ni arLety Myfyrwyr am fwy o wybodaeth am Neuaddau Preswyl Bangor.
Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd
Os ydych chi'n ystyried dod o hyd i waith rhan-amser tra yn y Brifysgol, bydd y Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yn barod i'ch cynghori. Mae'r Ganolfan hefyd yn cynnig cymorth gyda dod o hyd i brofiad gwaith a chyngor ar ddatblygu gyrfa, yn ogystal a helpu i chi wella eich CV drwy Gwobr Cyflogadwyedd Bangor.