T卯m Hunan-asesu Athena SWAN
Fel rhan o鈥檙 broses o wneud cais am wobr Athena SWAN, lluniwyd T卯m Hunan-asesu gan yr ysgol yn cynnwys amrywiaeth eang o staff (academaidd, technegol a chefnogi) a chynrychiolwyr myfyrwyr. Nodau鈥檙 T卯m Hunan-asesu Athena Swan oedd:
- Asesu cydraddoldeb rhywiol yn yr ysgol a nodi heriau a chyfleoedd;
- Datblygu a gweithredu cynllun gweithredu i ymgorffori Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yng ngweithrediad bob dydd yr ysgol;
- Helpu i ddatblygu a chynnal strwythur a diwylliant sefydliadol cadarnhaol gyda Chydraddoldeb ac Amrywiaeth mewn amgylcheddau gwaith a dysgu.
Dr Daniel Roberts yw Cyfarwyddwr Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yr Ysgol.
Yn 2020, esblygodd T卯m Hunan-asesu Athena SWAN i fod yn Bwyllgor Cydraddoldeb, Cynwysoldeb ac Amrywiaeth.
Athena SWAN
Enillodd yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg wobr Efydd Athena SWAN ym mis Hydref 2020. Mae hyn i gydnabod gwaith parhaus yr adran i hyrwyddo cydraddoldeb rhyw. Dogfen gais yr Ysgol.
Mae Siarter Athena SWAN yn rhoi cydnabyddiaeth i ddatblygiad cydraddoldeb rhywiol: cynrychiolaeth, cynnydd a llwyddiant i bawb.
Sefydlwyd Siarter Athena SWAN yr Uned Herio Cydraddoldeb yn 2005 i annog a chydnabod ymrwymiad i hyrwyddo gyrfaoedd merched sy鈥檔 gweithio ym meysydd gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, mathemateg a meddygaeth (STEMM) mewn addysg uwch ac ymchwil.
Ym Mai 2015 cafodd y siarter ei hymestyn i gydnabod gwaith a wneir yn y celfyddydau, y dyniaethau, gwyddorau cymdeithas, busnes a'r gyfraith (AHSSBL), ac mewn swyddi proffesiynol a chefnogi, ac ar gyfer staff a myfyrwyr trawsryweddol. Mae'r siarter bellach yn cydnabod gwaith a wneir yn ymdrin 芒 chydraddoldeb rhywiol yn ehangach, ac nid dim ond rhwystrau i ddilyniant sy'n effeithio ar ferched.
Mae siarter Athena SWAN yn cynnwys merched (a dynion lle bo'n briodol) yn y meysydd canlynol:
- Swyddi academaidd yn STEMM ac AHSSBL;
- Staff academaidd a staff cefnogi;
- Staff a Myfyrwyr trawsryweddol;
Mewn perthynas 芒'r canlynol:
- Cynrychiolaeth;
- Myfyrwyr yn symud ymlaen i鈥檙 byd academaidd;
- Taith trwy gerrig milltir gyrfa
- Amgylchedd gwaith yr holl staff;
听
听