麻豆传媒高清版

Fy ngwlad:

Cefnogaeth i fyfyrwyr sy'n trosglwyddo o'r ysgol neu'r coleg i'r brifysgol

Rydym yn cydnabod, yn ystod y pandemig, yr amharwyd ar addysg llawer o ddisgyblion. Rydym wedi cynnal arolwg o'n myfyrwyr sy鈥檔 dechrau o鈥檙 newydd er mwyn deall yn well eu profiadau dysgu blaenorol yn ystod y pandemig a'u pryderon ynghylch Addysg Uwch, a鈥檜 disgwyliadau, i ddarparu'r gefnogaeth sydd ei hangen. Rydym wedi creu cwrs cynefino ar-lein sy'n rhoi deg cam i chi fod yn 'Barod am Brifysgol Bangor'.

Mae ein cwrs allgyrsiol ar-lein, (Byddwch ar eich gorau ym Mangor/Be your Best at Bangor) yn darparu cyfnod cynefino hunangyfeiriedig blwyddyn i fyfyrwyr newydd, gan gyflwyno a datblygu sgiliau allweddol ar yr adeg gywir yn eu hastudiaethau. Gellir trafod nodiadau dyddlyfr o'r cwrs gyda'r tiwtor personol. Yn ogystal, rydym wedi adolygu ac addasu ein defnydd o arholiadau ym Mlwyddyn un ac yn cefnogi cyflwyno llai o arholiadau crynodol, o blaid dull mwy 'dilys' o asesu.

Mae Prifysgol Bangor wedi gweithio ar y cyd 芒 phrifysgolion eraill ledled Cymru a'r Brifysgol Agored i gynhyrchu casgliad o adnoddau Dysgu Agored/ i'ch helpu chi i ddechrau gydag Addysg Uwch

Os ydych chi'n ystyried dod i Brifysgol Bangor, bydd ein myfyrwyr flogwyr ac arbenigwyr prifysgol yn eich helpu i baratoi ar gyfer bywyd myfyrwyr.听