Gwen yn astudio Cymraeg, ac o Lanberis. Mae hi'n byw yn Neuadd John Morris-Jones.
Rhannwch y dudalen hon
Pam Bangor?
Bues ar ddiwrnod agored ac i'r Adran Gymraeg pan oeddwn yn y chweched dosbarth. Roedd pawb yn hynod groesawus o'r cychwyn, a sylweddolais pa mor glos oedd y gymdeithas Gymraeg yma ym Mangor.
Byw yn Neuadd John Morris-Jones...
Mae byw mewn neuadd wedi fy ngwneud yn fwy annibynnol wrth goginio ac ati. Rwyf hefyd yn byw mewn neuadd Gymraeg sydd yn brofiad arbennig iawn gan fod pawb fel un teulu mawr.
Bangor fel lle i fyw ac astudio...
Dinas fach a hardd yw Bangor sydd yn hawdd i ddod yn gyfarfwydd 芒 hi. Y mae hefyd gwrs i bawb ym Mhrifysgol Bangor, a nifer o fannau arbennig i astudio a gweithio.
Y Cwrs...
Dewis astudio'r Gymraeg yw un o uchafbwynt fy mywyd. Mae modiwlau amrywiol ar gael i bawb, ac mae'r holl staff yn hynod o gl锚n.
Uchafbwynt...
Fy uchafbwynt yw'r Eisteddfod Ryng-golegol ym Mangor ac Wythnosau'r Glas.
Y Dyfodol?
Nid ydwyf yn siwr beth i'w wneud fel swydd, ond gyda gradd yn y Gymraeg byddaf yn hapus mewn unrhyw swydd sy'n defnyddio'r iaith.