Lois Elan Jones
Helo!聽Lois ydw i a dw i newydd raddio o'r cwrs BA Addysg Gynradd o Fangor cyn yr haf. Dwi'n 21 mlwydd oed ac yn dod o ardal Caernarfon.聽
1. Pam wnest ti ddewis y cwrs BA Cynradd ym Mhrifysgol Bangor?
Dewisais astudio y cwrs ym Mangor yn bennaf i gael lleoliadau ysgol yn fy ardal leol, ac yn yr ardal y byddwn yn mynd allan i weithio iddo. Ar ben hyn mae cyrsiau addysg ym Mangor yn cael eu brolio gan athrawon ledled Cymru ac felly yn byw mor agos doedd dim dwywaith mai dyma fyddai'r lleoliad i mi. Rwyf wedi breuddwydio i fod yn athrawes ers oeddwn yn fechan, ond dewisais wneud cwrs BA mewn Addysg gan ei fod yn rhoi cyfle i mi adeiladu ar wybodaeth a sgiliau fesul dipyn, ac yn dod yn syth o'r chweched dosbarth roedd y cwrs ym Mangor yn cynnig yn union beth oeddwn eisiau.
2. Sut aeth y cwrs? Wnest ti fwynhau? Beth oedd y peth gorau am y cwrs?
Cefais dair mlynedd gwerthfawr ym Mangor, gyda atgofion melys iawn o'r cyfnod. Gyda niferoedd bychain ar y cwrs, mae pawb yn dod i adnabod ei gilydd yn dda, a pawb yn fwy na hapus i gynnig syniadau a chefnogaeth i'w gilydd. Mae'r darlithwyr i gyd yn gefnogol tu hwnt, ac yn brofiadol yn eu maes, roeddent o hyd yn barod i wrando ar unrhyw boenau neu gwestiynnau oedd gennym, yn enwedig yn y flwyddyn gyntaf pan oedd popeth yn ddiethr ac o'r newydd. Mae'n gwrs heriol ar adegau, ond gyda chefnogaeth cyfoedion a'r darlithwyr, heb anghofio'r ysgolion, mae'n bosib i chi ffynnu ar y cwrs os ydych chi'n mewnbynnu yr ymdrech a'r amser sydd ei angen. Heb os, y peth gorau am y cwrs ydi'r ysgolion, o'r ysgolion arweiniol i'r ysgolion profiad ysgol, maent yn arloesol ac i gyd gyda arbenigedd gwahanol i'w gynnig. Mae'r cyfle i ddatblygu fel athrawes gyda mentoriaid cefnogol tu hwnt wedi bod yn amhrisiadwy ac yn bendant yn rhan mawr o'r athrawes ydwyf heddiw. O safbwynt bersonol hefyd, mi fu Bangor yn wych gyda fy nghefnogi gyda cyflwr iechyd hir dymor. Roedd y darlithwyr empathetic, a'r tim anableddau, yn hollol wych. Wedi clywed sawl profiad annymunol o brifysgolion eraill, roeddwn mor falch o gychwyn ym Mangor gyda'r gefnogaeth glir i'w gweld. Gyda chyflwr anweledig ac anrhagweladwy ni fuaswn wedi gallu gofyn am well cefnogaeth na dealltwriaeth gan staff yr Ysgol Addysg.
3. Be ti'n neud rwan? Sut mae'r cwrs wedi dy helpu i baratoi ar gyfer hyn?
Ar hyn o bryd rwyf yn gweithio fel athrawes lanw ar draws ysgolion Gwynedd, ac yna yn teithio i Batagonia mis Mawrth i weithio fel athrawes yn Y Gaiman am 9 mis. Mae'r cysylltiadau proffesiynol rwyf wedi eu creu ar y cwrs wedi bod yn werthfawr iawn i gael gwaith llanw yn y sir, ac mae'r holl wybodaeth a strategaethau dysgais ar y cwrs yn dod yn ddefnyddiol pob dydd bellach wrth i mi eu defnyddio a'u datblygu yn y dosbarth. Daeth fy mhwnc ymchwil proffesiynol o'r drydedd flwyddyn yn ddefnyddiol dros ben wrth i mi ymgeisio am y swydd ym Mhatagonia, gan fy mod wedi ffocysu ar y defnydd o strategaethau datblygu llafaredd. Roedd gen i lwyth o brofiadau a gwybodaeth am addysgu dwyieithog, gyda diolch i fodiwlau'r cwrs ac roeddwn yn gallu meddu ar y wybodaeth yma yn y cyfweliad. Dwi'n edrych ymlaen yn arw i gael defnyddio a threialu y wybodaeth, strategaethau ac ymyrraethau hyn draw yn Y Wladfa flwyddyn nesaf.
4. Beth ydy dy obeithion di ar gyfer y dyfodol?
Rwyf yn gobeithio cael mwynhau yr hyn sydd gan Patagonia ei gynnig i mi, ac yn gobeithio gallu cynnig ychydig iddyn nhw hefyd. Ond wedi dychwelyd ym mis Rhagfyr, rwyf yn gobeithio mynd yn ol i'r dosbarth yma yng Nghymru, a pharhau i ysbrydoli dysgwyr a defnyddio'r holl bethau astudiais yn galed dros y dair mlynedd i roi addysg gwerthfawr, cynhwysfawr, arloesol ac yn bennaf hwyliog i unrhyw ddisgyblion sydd yn fy nosbarth.