Â鶹´«Ã½¸ßÇå°æ

Fy ngwlad:

Proffiliau Alumni - Meddygaeth Foleciwlaidd

Callum Costello mewn labordy

Proffil Alumni Callum Costello

Cwrs: Gwyddor Biofeddygol BSc ac MRes Meddygaeth Foleciwlaidd
Sefyllfa bresennol: Abzena/AbCellera

"Rhoddodd y cwrs nifer fawr iawn o sgiliau trosglwyddadwy i mi a ganiataodd i mi ddechrau ar fy ngyrfa mewn diwydiant a bwrw iddi’n syth."

Beth oeddech chi’n ei wneud cyn i chi ddechrau eich gradd MRes?

Astudio ar gyfer BSc Gwyddorau Biofeddygol ym Mhrifysgol Bangor.

Pam wnaethoch chi benderfynu gwneud MRes mewn Meddygaeth Foleciwlaidd ym Mhrifysgol Bangor?

Ar ôl bod yn y brifysgol yn gwneud fy fy ngradd israddedig, roeddwn yn ymwybodol o'r meysydd ymchwil yr oedd staff North West Cancer Research yn ymchwilio iddynt ac yn cael fy nenu iddynt. Yn dilyn y profiad cadarnhaol a gefais gyda’r adran yn ystod fy ngradd israddedig, a’r cyfle i dderbyn cyllid KESS2 ar gyfer yr MRes, penderfynais aros ym Mangor a pharhau gyda’m hastudiaethau ar lefel ôl-radd.

Beth ydych chi'n meddwl oedd y rhan fwyaf gwerthfawr o’r cwrs?

Mae treulio tua 9 mis yn y labordy yn meithrin y sgiliau ymarferol a’r sgiliau meddwl yn feirniadol sy’n angenrheidiol ar gyfer gyrfa mewn gwyddoniaeth, naill ai yn y byd academaidd neu mewn diwydiant yn werthfawr iawn. Roedd hyn yn arbennig o wir ar ôl yr ychydig flynyddoedd diwethaf lle bu'n rhaid i brofiad ymarferol gilio i’r cefndir oherwydd y pandemig COVID-19 a'r cyfnodau clo a gafwyd.

Beth oedd yr agwedd fwyaf heriol ar y cwrs? Beth wnaethoch ei ddysgu o hyn?

Y tu allan i'r maes ymchwil penodol, a oedd yn heriol ac yn werth chweil ynddo'i hun, dysgu sut i drefnu fy hun a fy arbrofion gyda llai o fewnbwn gan oruchwyliwr oedd y sialens fwyaf a wynebais. Fodd bynnag, trwy dreulio bob diwrnod yn y labordy yn gwneud arbrofion ac ennill profiad, dysgais yn gyflym sut i gynllunio ymlaen llaw a sut i ddod i ddeall ymchwil mewn ffordd oedd yn gwneud synnwyr fwyfwy wrth i’r wythnosau hedfan heibio.

Ble ydych chi wedi bod yn gweithio ers hynny? Beth ydych yn ei wneud yn awr?

Yn syth ar ôl cwblhau fy MRes, bum yn gweithio i Abzena, sef sefydliad gweithgynhyrchu a datblygu contractau yn yr adran Cell Line Development (CLD) yng Nghaergrawnt. Yno bûm yn gweithio ar brojectau cleientiaid i gynhyrchu cell-linellau ofarïau bochdewion Tsieineaidd sy'n rhoi amrywiaeth o broteinau megis gwrthgyrff, proteinau Fc-Fusion, a gronynnau tebyg i rai firol, i'w defnyddio mewn brechlynnau neu senarios therapiwtig.

Ond yn ddiweddar, rwyf wedi cael swydd gyda’r grŵp CLD newydd yn Abcellera yn Vancouver, Canada. Fel rhan o’r tîm, byddaf yn gwneud llawer o’r un rolau ag yn Abzena, ond gyda’r cyfle ychwanegol i fod yn rhan o ddatblygu a sefydlu adran newydd yn y cwmni, gan weithio i ddatblygu llwyfan newydd o gell-linellau a pharhau i weithio ym maes darganfod a datblygu cyffuriau.
Yn Abzena ac AbCellera, rydym yn defnyddio amrywiaeth eang o offer awtomeiddio datblygedig, o drinwyr hylifau a pheiriannau ddPCR, i fioadweithyddion sy’n amrywio o ran maint o 15mL i 2000L. Mae hyn yn ein galluogi i ddarparu deunydd wedi'i buro i dimau ymchwil trwy gydol y broses o ddatblygu cyffuriau hyd at gynnal treialon clinigol.

Sut mae'r cwrs wedi eich helpu i gyrraedd lle rydych chi nawr? Pa agwedd oedd bwysicaf?

Rhoddodd y cwrs nifer fawr iawn o sgiliau trosglwyddadwy i mi a ganiataodd i mi ddechrau ar fy ngyrfa mewn diwydiant a bwrw iddi’n syth. Er fy mod wedi gallu defnyddio'r sgiliau yma i gyd ers dechrau gweithio, mae'r elfen o feithrin celloedd wedi bod yn fantais fawr. Mae medru meithrin celloedd mamolaidd yn fantais enfawr wrth wneud cais am swyddi y tu allan i'r brifysgol, boed yn gweithio gyda bôn-gelloedd, cell-linellau cynhyrchu, neu’n gwneud ymchwil.

Beth yw eich cynlluniau ar gyfer y dyfodol?

Ar hyn o bryd, fy mhrif gynllun yw trefnu symud i Ganada i ddechrau ar fy swydd newydd! Ar ôl hynny, fy nod yw parhau i ddatblygu a dysgu popeth o fewn fy ngallu am y broses o ddatblygu cell-linellau, yn ogystal â meysydd cysylltiedig fel y gallaf, yn y pen draw, gyrraedd swydd uwch yn rheoli eraill a’u helpu i gyflawni yn y maes.

Zoe Shepherd mewn labordy

Proffil Alumni Zoe Shepherd

Cwrs: Gwyddorau Biofeddygol a MRes Meddygaeth Foleciwlaidd
Sefyllfa bresennol: Siemens Healthineers, Llanberis

"Gwnaeth fy nghyfnod yn astudio ar gyfer MRes mewn meddygaeth Foleciwlaidd fy helpu i ddeall lefel y manylder a'r cynllunio sydd eu hangen i gyflawni gweithgareddau labordy cymhleth."

Beth oeddech chi’n ei wneud cyn i chi ddechrau eich gradd MRes?

Roeddwn wedi cwblhau fy ngradd israddedig mewn Gwyddorau Biofeddygol ym Mhrifysgol Bangor

Pam wnaethoch chi benderfynu gwneud MRes mewn Meddygaeth Foleciwlaidd ym Mhrifysgol Bangor?

Roeddwn eisiau ennill sgiliau ymchwil annibynnol yn y labordy a thrwy adolygiadau llenyddiaeth, er mwyn helpu i baratoi ar gyfer y camau nesaf yn fy ngyrfa.
Dewisais wneud hyn ym Mangor gan fy mod eisoes wedi meithrin cysylltiadau gydag arweinwyr y cwrs ac yn gwybod y byddwn yn cael lefel wych o arbenigedd a dealltwriaeth i'm cefnogi trwy'r cwrs oherwydd fy mod yn gwneud fy ngradd israddedig ym Mangor.

Beth ydych chi'n meddwl oedd y rhan fwyaf gwerthfawr o’r cwrs?

Rhoddodd y cwrs gyfle i chi ddatblygu eich sgiliau ymchwil yn annibynnol ac ar y cyd trwy ddarparu amgylchedd tebyg i'r hyn y byddech yn ei ddisgwyl gan PhD. Roeddwn i'n rhyngweithio'n ddyddiol gydag aelodau'r labordy a'm goruchwyliwr i gyflawni fy nodau ymchwil, gan ennill eu gwybodaeth a'u harbenigedd ar hyd y ffordd.

Beth oedd yr agwedd fwyaf heriol ar y cwrs? Beth wnaethoch ei ddysgu o hyn?

Y wers fwyaf gwerthfawr a ddysgais o'r cwrs oedd eich bod yn cael allan ohono yr hyn rydych chi’n ei roi i mewn a gwydnwch yw'r sgil pwysicaf i'w ddatblygu. Yn y rhan fwyaf o achosion, nid yw ymchwil yn mynd fel y disgwylir bob tro a byddwch yn gweld hynny yn eich bywyd proffesiynol hefyd. Mae’n ymwneud â pha mor rhagweithiol yr ydych am y newidiadau a'r heriau rydych yn eu hwynebu yn ogystal â deall mai chi sydd i benderfynu a ydych am gael hyd i'r atebion.

Ble ydych wedi bod yn gweithio ers hynny? Beth ydych yn ei wneud yn awr?

Ers graddio gyda MRes mewn Meddygaeth Foleciwlaidd rwyf wedi gweithio yn Siemens Healthineers yn gweithio fel Gwyddonydd Gweithgynhyrchu. Mae fy swydd yn ymwneud â throsglwyddo'r labordy Deunyddiau Crai Critigol yn Los Angeles i Lanberis. Rwyf wedi bod yn y swydd hon ers llai na blwyddyn ac rwyf bellach wedi cael dyrchafiad i fod yn Rheolwr Cynhyrchu Hybridoma, Clefydau Heintus a Bioleg Foleciwlaidd.
Rwy'n gyfrifol am sicrhau bod y wybodaeth dechnegol yn cael ei throsglwyddo o'r Arbenigwyr Materion Pwnc yn Los Angeles i'r tîm yn Llanberis yn ogystal â sefydlu'r labordy newydd fel y gellir dechrau cynhyrchu yn Llanberis.
Mae'r safle yn Llanberis yn cynhyrchu deunyddiau sydd eu hangen i redeg y llwyfan imiwnobrofion IMMULITE a ddefnyddir mewn labordai diagnostig i helpu i wneud diagnosis o lu o afiechydon.

Sut mae'r cwrs wedi eich helpu i gyrraedd lle rydych chi nawr? Pa agwedd oedd bwysicaf?

Gwnaeth fy nghyfnod yn astudio ar gyfer MRes mewn meddygaeth Foleciwlaidd fy helpu i ddeall lefel y manylder a'r cynllunio sydd eu hangen i gyflawni gweithgareddau labordy cymhleth. Mae hon yn sgil werthfawr rwyf wedi ei defnyddio llawer yn fy swydd i ddeall sut y gellir defnyddio organebau amrywiol i gynhyrchu protein a'r cymhlethdodau sy'n gysylltiedig â hynny.

Beth yw eich cynlluniau ar gyfer y dyfodol?

Rwy’n bwriadu aros yn fy swydd newydd fel Rheolwr Cynhyrchu Hybridoma, Clefydau Heintus a Bioleg Foleciwlaidd i sicrhau bod trosglwyddo Deunyddiau Crai Critigol o Los Angeles i Lanberis yn llwyddiant a datblygu fy sgiliau fel Rheolwr Cynhyrchu cyn anelu at symud ymlaen yn uwch yn Siemens Healthineers.  

Olawale Taiwo yn gwisgo siaced biws golau

Proffil Alumni Olawale Taiwo

Cwrs: MRes Meddygaeth Foleciwlaidd
Sefyllfa bresennol: PhD mewn bioleg foleciwlaidd/epigeneteg, Prifysgol Carleton

"Cefais tua 6 chynnig gwahanol ar gyfer cyfleoedd PhD, credaf fod fy mhrofiad ymchwil ym Mangor wedi rhoi mantais gystadleuol i mi yn ogystal â geirda gan fy ngoruchwyliwr."

Beth oeddech chi’n ei wneud i chi ddechrau eich gradd MRes?

Roeddwn eisiau mynd i mewn i ymchwil feddygol gan fy mod wedi diflasu ar ymarfer clinigol, ac nid oedd gennyf unrhyw brofiad blaenorol mewn ymchwil labordy, y dewis gorau ar gyfer y llwybr gyrfa a ragwelais oedd gwneud MRes gan i mi ddarllen bod ganddo'r rhan ymchwil, sef canran enfawr a rhywfaint o elfen hyfforddedig.

Pam wnaethoch chi benderfynu gwneud MRes mewn Meddygaeth Foleciwlaidd ym Mhrifysgol Bangor?

I fod yn benodol, roeddwn yn hoffi'r syniad bod yr MRes mewn meddygaeth foleciwlaidd yn yr NWCRI. Roeddwn i'n credu y byddwn i'n dysgu gan nifer o bobl ac yn cael dealltwriaeth o'r gweithiau diweddaraf ar ymchwil canser. Roeddwn hefyd yn meddwl y byddai'r flwyddyn yn fy mharatoi’n well i wybod a hoffwn ddilyn PhD ai peidio.

Beth ydych chi'n meddwl oedd y rhan fwyaf gwerthfawr o’r cwrs?

Yr elfen ymchwil. Y profiad ymarferol a gefais. Roeddwn i'n hoffi gweithio yn y labordy, rwy'n mynd yn gynnar ac yn gweithio nes fy mod yn meddwl y gallaf gael canlyniadau da.

Beth oedd yr agwedd fwyaf heriol ar y cwrs? Beth wnaethoch ei ddysgu o hyn?

Gan fy mod yn dod o gefndir clinigol llawn, doeddwn i ddim yn deall sut mae ymchwil yn gweithio. Un peth oedd yn heriol iawn i mi oedd yr ysgrifennu!!! Doeddwn i ddim yn gwybod llawer am ysgrifennu academaidd, a chymerodd amser i mi ymgyfarwyddo â deall union ganolbwynt ymchwil fy ngrŵp. Erbyn hyn, rwy'n meddwl fy mod mewn gwell sefyllfa.

Ble ydych wedi bod yn gweithio ers hynny? Beth ydych yn ei wneud yn awr?

Ar hyn o bryd rwy'n gwneud fy PhD mewn bioleg foleciwlaidd gan ganolbwyntio ar epigeneteg ym Mhrifysgol Carleton yng Nghanada. Rwyf hefyd yn gweithio fel Cynorthwyydd Addysgu yn addysgu myfyrwyr meddygaeth israddedig anatomeg a ffisioleg ac yn gweithio fel cysylltai ymchwil ar gyfer labordy genomeg. Dydw i ddim yn siŵr a alla’ i ddewis unrhyw gas bethau o’m swydd bresennol eto.

Sut mae'r cwrs wedi eich helpu i gyrraedd lle rydych chi nawr? Pa agwedd oedd bwysicaf?

Cefais tua 6 chynnig gwahanol ar gyfer cyfleoedd PhD, credaf fod fy mhrofiad ymchwil ym Mangor wedi rhoi mantais gystadleuol i mi ynghyd â geirda gan fy ngoruchwyliwr. Rwyf hefyd yn gallu ysgrifennu’n llawer gwell nag yr oeddwn. Dysgais lawer o sgiliau a all wneud i mi ffitio i mewn unrhyw le dwi eisiau fel ysgrifennu, technegau labordy moleciwlaidd (er eu bod yn newydd, gallaf ddysgu'n hawdd) a llawer mwy.

Beth yw eich cynlluniau ar gyfer y dyfodol?

Rwy'n dal i feddwl ond rwyf eisiau gweithio gyda phrif gwmni fferyllol sy'n ymchwilio i gyffuriau canser newydd neu fod yn berchen ar fy labordy ac wrth gwrs bod yn ddarlithydd.

Thomas Regan mewn labordy

Proffil Alumni Thomas Regan

Cwrs: BSc in Bioleg gyda Biotechnoleg BSc a MRes Meddygaeth Foleciwlaidd
Sefyllfa bresennol: Project goruchwylio dŵr gwastraff COVID, Prifysgol Bangor

"Mae'r cwrs wedi rhoi cefndir cadarn i mi mewn deall datblygiad canser ar y lefel cellog a genetig." 

Beth oeddech chi’n ei wneud cyn i chi ddechrau eich gradd MRes?

BSc mewn Bioleg gyda Biotechnoleg ym Mhrifysgol Bangor

Pam wnaethoch chi benderfynu gwneud MRes mewn Meddygaeth Foleciwlaidd ym Mhrifysgol Bangor?

I gael cymhwyster meistr mewn ymchwil Canser, roeddwn eisoes yn gyfarwydd â'r brifysgol, rhai o’r staff a’r myfyrwyr.

Beth ydych chi'n meddwl oedd y rhan fwyaf gwerthfawr o’r cwrs?

Cynnal yr ymchwil ymarferol yn annibynnol, ar ôl cael arweiniad priodol, dysgu technegau labordy mewn echdynnu DNA, meintioli ac ati.
Mynd i ddarlithoedd gan siaradwyr gwadd.
Ysgrifennu traethawd ymchwil/adolygiad llenyddiaeth a chael adborth.

Beth oedd yr agwedd fwyaf heriol ar y cwrs? Beth wnaethoch ei ddysgu o hyn?

Dyfalbarhau pan nad yw arbrofion yn rhoi unrhyw ganlyniadau a mynd i'r afael â syniadau/mecanweithiau cymhleth. Rwyf wedi dysgu o hyn i feddwl yn fwy deinamig ac i ddyfalbarhau.

Ble ydych wedi bod yn gweithio ers hynny? Beth ydych yn ei wneud yn awr?

Rwy’n cael fy nghyflogi ar hyn o bryd ar broject goruchwylio dŵr gwastraff COVID ym Mhrifysgol Bangor. Rwyf wedi dysgu mwy yma am drefn labordy, wedi datblygu sgiliau newydd megis qPCR a rheoli ansawdd, echdynnu RNA firol a dyddodiad gan ddefnyddio PEG, dadansoddiad cemeg sylfaenol o samplau. Mae cyfrifoldebau eraill yn cynnwys paratoi byfferau golchi, glanhau, cynnal safonau uchel mewn labordy.

Sut mae'r cwrs wedi eich helpu i gyrraedd lle rydych chi nawr? Pa agwedd oedd bwysicaf?

Mae'r cwrs wedi rhoi cefndir cadarn i mi mewn deall datblygiad canser ar y lefel cellog a genetig, gan ganolbwyntio ar fanteisio ar wneud y defnydd gorau o ryngweithiad angheuol synthetig genetig â chyffuriau canser analog niwcleosid.
Trwy'r cwrs rwyf wedi datblygu fy sgiliau ysgrifennu, datrys problemau a'r gallu i gynnal project gan roi hyder i mi wneud PhD.

Beth yw eich cynlluniau ar gyfer y dyfodol?

Byddaf yn dychwelyd i Fanceinion ddechrau mis Awst. Rwy'n chwilio am swydd ar hyn o bryd ond rwy'n cael trafferth dod o hyd i un sy'n gam i fyny o fy swydd bresennol o ran swyddogaeth a chyflog, heb fod angen PhD.
Rwy'n ystyried gwneud PhD mewn ymchwil canser ym Manceinion, mae fy niddordebau yn cynnwys epigeneteg, biowybodeg, genomeg canser.

Tyler Heslop yn gwisgo top gwyrdd

Proffil Alumni Tyler Heslop

Cwrs: MRes Meddygaeth Foleciwlaidd
Sefyllfa bresennol: PhD mewn Geneteg Foleciwlaidd, Prifysgol Lerpwl

"Rwy'n credu yr oedd fy MRes yn allweddol i gael swydd PHD wedi'i hariannu."

Beth oeddech chi’n ei wneud cyn i chi ddechrau eich gradd MRes?

Bioleg Feddygol (BSc) ym Mhrifysgol Bangor

Pam wnaethoch chi benderfynu gwneud MRes mewn Meddygaeth Foleciwlaidd ym Mhrifysgol Bangor?

Roedd yn gyfle i ddatblygu ymhellach y wybodaeth a gefais o fy ngradd israddedig wrth ennill profiad labordy mewn lleoliad ymchwil. Roeddwn i'n credu mai'r MRes oedd y cam nesaf gorau yn fy llwybr tuag at yrfa mewn ymchwil

Beth ydych chi'n meddwl oedd y rhan fwyaf gwerthfawr o’r cwrs?

Yr amser a’r profiad a gefais wrth weithio mewn labordy. Rhoddodd yr MRes gyfle i mi gwblhau fy mhroject ymchwil annibynnol fy hun a threulio blwyddyn yn gweithio gyda labordy ymchwil, a oedd yn amhrisiadwy i mi wrth ddatblygu fy ngyrfa.

Beth oedd yr agwedd fwyaf heriol ar y cwrs? Beth wnaethoch ei ddysgu o hyn?

Nid yw ymchwil yn rhwydd. Gall arbrofion fethu ac nid yw canlyniadau bob amser yr hyn yr ydych yn ei ddisgwyl. Mae cael y profiad o weld fy ymchwil yn peidio â mynd y ffordd roeddwn ei eisiau wedi fy helpu nawr wrth wneud fy PHD yn ystod y cyfnodau anodd.

Ble ydych wedi bod yn gweithio ers hynny? Beth ydych yn ei wneud yn awr?

Yn syth ar ôl fy MRes, bûm yn gweithio fel gwyddonydd mewn labordy goleudy yn ystod y pandemig. Arweiniodd hyn wedyn at gael fy nghyflogi fel uwch wyddonydd o fewn rhwydwaith Profi ac Olrhain y GIG. Yn ystod y cyfnod hwn, roeddwn yn gweld eisiau'r teimlad o annibyniaeth wrth wneud ymchwil ac felly dychwelais i'r byd academaidd ac rwyf wedi dechrau fy PHD mewn Geneteg Foleciwlaidd. Rwy'n mwynhau bod yn gyfrifol am fy mhroject fy hun a chyda hynny, bod yn gyfrifol am fy amserlen waith fy hun. Fodd bynnag, oherwydd natur yr ymchwil, nid yw fy ngwaith bob amser yn syml ac mae llawer o ddatrys problemau ac ailadrodd arbrofion yn gallu bod yn rhwystredig.

Sut mae'r cwrs wedi eich helpu i gyrraedd lle rydych chi nawr? Pa agwedd oedd bwysicaf?

Rwy'n credu yr oedd fy MRes yn allweddol i gael swydd PHD wedi'i hariannu Roedd y profiad labordy, yn enwedig o ddod o amgylchedd ymchwil, yn bwysig iawn i ddangos fy mod yn gallu gwneud astudiaeth PHD.

Beth yw eich cynlluniau ar gyfer y dyfodol?

Rwy'n bwriadu cwblhau fy PHD a dilyn gyrfa ym maes ymchwil ymhellach.