Hannah Hawksworth Seicoleg gyda Seicoleg Glinigol ac Iechyd BSc (Anrh)
Mae鈥檙 Flwyddyn Dramor yma wedi agor fy llygaid i brofiadau newydd ac wedi fy annog i deithio a gweld beth sydd gan wledydd eraill i'w gynnig.
A gest ti sioc ddiwylliannol?
Do, yn bendant! Rwy'n meddwl mai'r sioc fawr gyntaf oedd y ffaith nad oes llawer o amrywiaeth yng Nghorea - ac roedd yn hollol amlwg i bawb yn syth fy mod yn dod o wlad arall. Mae Seoul yn fwy rhyngwladol, ond mae鈥檙 rhan fwyaf o bobl yn Sejong yn dod o Gorea. Roeddwn hefyd wedi synnu bod y gymdeithas yn parchu鈥檙 gyfraith i鈥檙 fath raddau. Mae rhai siopau yng Nghorea yn rhai hunan-wasanaeth yn unig, gan mai prin yw鈥檙 achosion o ddwyn o siopau. Yn yr un modd, pe baech yn gadael eich ff么n neu waled mewn caffi, neu'n eu colli yn rhywle, fyddai neb wedi mynd 芒 nhw. Gallai eich ff么n fod ar y palmant am ddyddiau heb gael ei ddwyn. Mae'n ymddangos bod gan bobl yma fwy o barch o lawer at eiddo pobl eraill.
Sut mae wythnos arferol ym Mhrifysgol Corea Sejong yn edrych?
Mae fy nosbarthiadau fel arfer yn cael eu cynnal o ddydd Llun i ddydd Iau, gydag ychydig oriau o amser dosbarth bob dydd. Ar un diwrnod, mae gen i ddosbarth Diwylliant Corea, 3 awr o hyd, ac yna 2 awr o iaith Corea. Mae'r dosbarthiadau eu hunain wedi bod yn hynod ddiddorol. Mae dosbarthiadau fy nghyrsiau diwylliant ac iaith Corea鈥檔 cynnwys myfyrwyr cyfnewid yn unig, ond fi yw'r unig berson nad yw'n dod o Gorea yn fy nosbarthiadau eraill. Nid oeddwn yn teimlo鈥檔 gartrefol o gwbl i ddechrau, ond rwyf wedi dod i arfer erbyn hyn. Y tu hwnt i'r dosbarth, rwy'n treulio amser yn astudio yn un o'r nifer o gaffis ger y campws, sy'n boblogaidd ymysg myfyrwyr. Rwy鈥檔 treulio fy mhenwythnosau鈥檔 ymweld ag atyniadau a dinasoedd eraill yng Nghorea. O dro i dro, mae鈥檙 brifysgol yn mynd 芒 ni ar daith dosbarth i Seoul am benwythnos, yn rhad ac am ddim.
Beth rwyf wedi鈥檌 ennill
Rwyf yn sicr wedi datblygu fel person yn ystod fy nghyfnod yma. Mae wedi bod yn her go iawn ceisio ymgartrefu mewn gwlad newydd sydd 芒 rhwystr iaith sylweddol. Nid oes llawer o bobl yn siarad Saesneg yn Sejong, felly rwyf wedi gorfod dod i arfer 芒 cheisio siarad Cor毛eg mor aml 芒 phosibl. Yn ogystal 芒 bod yn iaith anodd i鈥檞 dysgu, mae peidio 芒 deall rhywun sy鈥檔 siarad Cor毛eg 芒 mi o hyd yn peri straen. Diolch i鈥檙 drefn am apiau cyfieithu! 聽
Mae'r profiad hwn wedi fy helpu i ddysgu bod yn annibynnol, yn ogystal 芒 sut i ymdopi 芒 bywyd a byw mewn gwlad newydd, er gwaethaf y rhwystr iaith. Rwyf hefyd wedi cael gweld sut beth yw cael fy nhrochi mewn diwylliant gwahanol. Mae鈥檔 ddiddorol sylwi ar y gwahaniaethau bach, hyd yn oed, rhwng Corea a鈥檙 Deyrnas Unedig. Mae鈥檙 Flwyddyn Dramor hon wedi agor fy llygaid i brofiadau newydd, ac wedi codi blys arnaf i deithio ac archwilio鈥檙 hyn sydd gan wledydd eraill i鈥檞 gynnig.
Paratoi ar gyfer y Flwyddyn Profiad Tramor
Ewch ati i ymchwilio鈥檔 drylwyr i鈥檙 wlad y byddwch yn ymweld 芒 hi. Er enghraifft, mae dysgu ychydig o ymadroddion a geiriau allweddol yn yr iaith frodorol yn dangos eich bod yn gwrtais ac yn gwneud ymdrech, yn hytrach na disgwyl i bawb siarad Saesneg. Mae hefyd yn bwysig dysgu rhai arferion a moesau lleol. Er enghraifft, yng Nghorea, mae鈥檔 gwrtais gwyro mymryn ar eich pen pan fyddwch yn cwrdd 芒 phobl newydd er mwyn dangos parch, neu wrth roi neu dderbyn eitemau, eich bod yn defnyddio鈥檙 ddwy law i afael yn y gwrthrych. Enghraifft arall yng Nghorea sy'n hynod bwysig yw defnyddio iaith ffurfiol wrth siarad ag unrhyw un sy鈥檔 h欧n na chi. Mae gan iaith Corea sawl lefel o ffurfioldeb, sy'n hanfodol os nad ydych eisiau ymddangos yn anghwrtais wrth gyfathrebu.
Yn ail, paratowch eich arian yn dda. Lluniwch gynllun bras o gostau ar gyfer y flwyddyn, ond cofiwch gynnwys mwy yn eich cyllideb. Efallai y bydd angen arian ychwanegol ar gyfer gweithgareddau neu deithiau nad ydych wedi鈥檜 cynllunio. Mae hefyd yn syniad da cadw 鈥渃ronfa frys鈥 o'r neilltu cyn dechrau ar eich Blwyddyn Profiad Rhyngwladol. Fe wnes i鈥檔 si诺r fy mod wedi cadw arian wrth gefn, rhag ofn y byddai argyfwng, fel fy mod yn gallu hedfan yn 么l i鈥檙 Deyrnas Unedig yn gyflym pe bai angen.