Mae’r astudiaeth wedi adolygu’r dystiolaeth sydd ar gael o amgylch y byd ac wedi canfod bod tad di-waith neu unrhyw un o’r rhieni’n ddi-waith (y naill riant neu’r ddau riant yn ddi-waith) yn gysylltiedig â risg uwch o 29% o gam-drin rhywiol, risg uwch o 54% o esgeulustod, risg uwch o 60% o gam-drin corfforol a risg uwch o oddeutu 90% o gam-drin plant a salwch meddwl rhieni. Fodd bynnag, ni chanfuwyd unrhyw gysylltiadau rhwng diweithdra ymhlith mamau a phrofiad niweidiol yn ystod plentyndod.
Mae deall y cysylltiadau rhwng diweithdra ymhlith rhieni a phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn bwysig er mwyn targedu rhaglenni i rwystro profiadau niweidiol yn ystod plentyndod a meithrin gwytnwch yn erbyn eu heffeithiau niweidiol. Gall profiadau niweidiol yn ystod plentyndod gael goblygiadau hirdymor o ran iechyd a lles i blant, gan gynyddu’r tebygolrwydd o gyrhaeddiad addysgol gwael, ymddygiad sy’n niweidiol i iechyd, megis ysmygu a chymryd cyffuriau, a datblygu iechyd meddwl a chorfforol gwael. Gallant hefyd effeithio ar gyfleoedd cyflogaeth plant yn ddiweddarach mewn bywyd, gan gyfrannu at gylchoedd aml-genhedlaeth o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod ac amddifadedd. Rhaid cael buddsoddiad er mwyn torri’r cylchoedd hyn a chynyddu cyfleoedd cyflogaeth a darparu cefnogaeth i rieni a darparwyr gofal.
Mewn erthygl yn , mae Natasha Judd a chydweithwyr yn Uned Gydweithredol Iechyd y Cyhoedd, Prifysgol Bangor ac Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyfuno canfyddiadau o 60 o astudiaethau yn edrych ar gysylltiadau rhwng diweithdra ymhlith rhieni a gwahanol fathau o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod.
Meddai Natasha Judd, y prif awdur ym Mhrifysgol Bangor,
“Mae gwaith blaenorol ar brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn awgrymu y gall profiad niweidiol yn ystod plentyndod leihau cyfleoedd cyflogaeth pan fydd y plant hynny’n oedolion ac mae ein hadolygiad yn awgrymu y gallai diweithdra gynyddu’r risg o brofiad niweidiol yn ystod plentyndod yn cael ei ailadrodd yn y genhedlaeth nesaf, gan ddal teuluoedd mewn cylchoedd aml-genhedlaeth o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod ac amddifadedd.”
Meddai Karen Hughes, cydawdur yr adolygiad o ,
“Efallai na fydd camau i gefnogi teuluoedd sy’n wynebu diweithdra neu gyflogaeth ansicr yn datrys y broblem o ddiweithdra, ond gallant helpu i leihau’r canlyniadau niweidiol a meithrin gwytnwch mewn teuluoedd.” Mae hyn yn arbennig o bwysig ar adegau o argyfwng economaidd.”
Meddai Becky Amos, ymchwilydd ym Mhrifysgol Bangor,
“Er bod ein hastudiaeth wedi nodi cysylltiadau rhwng diweithdra ymhlith rhieni a phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod, mae angen astudio’r ffordd y mae’r cysylltiadau hyn yn gweithio ymhellach er mwyn deall a yw diweithdra ymhlith rhieni yn arwain at brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod, a yw ffactorau sy’n cyfrannu at brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod, megis tlodi a thrais yn y gymdogaeth, yn arwain at ddiweithdra, neu a yw’r cysylltiad yn cael ei gyfryngu drwy drydydd ffactor.”