Sefydliad Confucius Bangor yn cynnal ei Fforwm cyntaf ar Effaith y Newid yn yr Hinsawdd ar Fasnach Ryngwladol a Chyfraith Iechyd
Cynhaliodd Sefydliad Confucius Prifysgol Bangor Fforwm Cyfraith Ryngwladol ar-lein dros ddau ddiwrnod, i roi sylw i鈥檙 rhwymedigaethau cyfredol o dan ymbar茅l bras y Gyfraith Ryngwladol ar y Newid yn yr Hinsawdd. Daeth y Fforwm ag academyddion o Tsieina a'r Deyrnas Unedig ynghyd ac annog trafodaeth a chyfnewid syniadau ymhlith y cynrychiolwyr ar bob lefel.

Ar ran y trefnwyr, dywedodd Lina Davitt, Cyfarwyddwr Sefydliad Confucius Prifysgol Bangor:
'Roedd y fforwm yn fywiog iawn a nifer o sgyrsiau diddorol, a ddangosodd er bod gwledydd unigol yn gweithio'n ddygn i weithredu deddfau ar gyfer y newid yn yr hinsawdd, mae llawer i'w wneud o hyd o ran yr angen am gydweithio bydeang ac ymchwil sy'n tywys llunwyr polis茂au. Fodd bynnag, daeth yn amlwg bod y gymuned gyfraith ryngwladol yn uchelgeisiol ac yn frwd dros weithio tuag at ddeddfwriaeth a allai arafu鈥檙 cyfraniad dynol at y newid anochel yn yr hinsawdd.'
Roedd adborth y cynadleddwyr yn gadarnhaol iawn, ac mae Sefydliad Confucius yn bwriadu cynnal y digwyddiad yn flynyddol!
'Roedd y digwyddiad wedi'i drefnu'n dda, gydag amrywiaeth o bynciau diddorol a pherthnasol i鈥檞 gilydd. Er y bu鈥檔 rhaid ei gynnal ar-lein, aeth y ffrwd fyw鈥檔 dda, a phawb yn medru cyfathrebu a chyfnewid syniadau. Diolch i bawb a fu yngl欧n 芒鈥檙 trefnu.'
'Roedd y fforwm yn gyfle gwych i rannu a dysgu am effeithiau鈥檙 newid yn yr hinsawdd ar wahanol feysydd o鈥檙 gyfraith ryngwladol. Mwynheais y trafodaethau a oedd yn fywiog ac ysgogol.'
'Gobeithiwn weld mwy o ddigwyddiadau fel hwn!'