Mae astudiaeth newydd wedi datgelu bod Prifysgol Bangor ymhlith y sefydliadau hynny yn y Deyrnas Unedig sy'n gwneud yr ymdrech fwyaf i warchod bywyd gwyllt - gan fodloni 100% o'r meini prawf.
Cyfarfu Prifysgol Bangor 芒 meini prawf yr 'haen platinwm', trwy fod 芒 pholis茂au diogelu bywyd gwyllt, partneriaethau neu gyllid ar gyfer achosion bywyd gwyllt, gweithgareddau bioamrywiaeth neu fywyd gwyllt ac arolygon bywyd gwyllt rheolaidd.
Bu'r astudiaeth, dan arweiniad Ark Wildlife, sy鈥檔 arbenigo mewn gofalu am fywyd gwyllt, yn cynnal arolwg o holl brifysgolion y Deyrnas Unedig o ran y gefnogaeth a鈥檙 mentrau bywyd gwyllt y maent yn eu cynnig ar y campws ac oddi ar y campws.
Trwy ei pholis茂au amgylcheddol a bioamrywiaeth mae Prifysgol Bangor wedi ymrwymo i hyrwyddo bioamrywiaeth ar y campws. Hefyd, mae gan y brifysgol nifer o bartneriaethau ar draws y rhanbarth, gan gynnwys partneriaethau 芒 Gardd Fotaneg Treborth, Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Cymru a鈥檙 rhaglen Campws Cyfeillgar i Ddraenogiaid.
Mae cyfraniad y sefydliad i fywyd gwyllt yn lleol hefyd yn amlwg yn y cyfleoedd sydd ar gael i staff a myfyrwyr gymryd rhan mewn gweithgareddau bywyd gwyllt, megis amrywiaeth o weithdai natur arbenigol gyda sefydliadau lleol, cyrsiau garddio ar gyfer llesiant, cadwraeth planhigion a digwyddiadau planhigion peillio.
Dywedodd Lars Wiegand, Cyfarwyddwr Ystadau a鈥檙 Gwasanaethau Campws, 鈥淢ae'r gydnabyddiaeth hon yn tynnu sylw at y gwaith caled a wneir gan dimau ar draws y campws gan gynnwys Gwasanaethau鈥檙 Campws, Gardd Fotaneg Treborth, Undeb y Myfyrwyr, yn ogystal 芒 Lles Campws. Eu sylw a'u hangerdd am yr hyn maen nhw'n ei wneud sydd wedi helpu Prifysgol Bangor i gyflawni'r statws hwn. Hoffem hefyd ddiolch i gydweithwyr, myfyrwyr a鈥檙 cyhoedd am gyfrannu at yr arolygon bioamrywiaeth niferus dros y blynyddoedd."
Ychwanegodd Dr Christian Dunn, y Dirprwy Is-ganghellor Cynorthwyol dros Gynaliadwyedd, "Mae'n wych gweld cydnabyddiaeth i waith caled cymaint o aelodau staff sy鈥檔 helpu i sicrhau bod ein campws mor fioamrywiol ac mor gyfeillgar i fywyd gwyllt 芒 phosibl.
"Mae addysgu ac ymchwil yn y gwyddorau naturiol yn rhan bwysig o Brifysgol Bangor, felly rydyn ni'n teimlo ei bod hi'n bwysig ymarfer yr hyn rydyn ni'n ei bregethu o ran gofalu am ein bywyd gwyllt.
"Serch hynny, dydyn ni ddim yn mynd i orffwys ar ein rhwyfau; byddwn yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i wella ein campws ar gyfer cymuned y Brifysgol a'n bywyd gwyllt."
Sut mae prifysgolion eraill y Deyrnas Unedig yn cymharu?
Sgoriodd bron i draean (42 o 122) o'r prifysgolion a ymatebodd farciau uchel, trwy gefnogi bywyd gwyllt gyda nifer o fesurau gweithredol. Mae'r mwyafrif (84%) o brifysgolion a ymatebodd yn cymryd rhan mewn o leiaf un fenter ar gyfer bywyd gwyllt lleol, er bod digon o le i wella ymhlith prifysgolion y Deyrnas Unedig o hyd.
Y ffactor sy'n cael ei anwybyddu amlaf yw gweithgareddau bioamrywiaeth neu fywyd gwyllt i fyfyrwyr: mae mwy na chwarter (34 o 122) y prifysgolion yn methu 芒 chynnig hynny. Yn yr un modd, nid oes gan 30 o brifysgolion unrhyw bolis茂au ar waith i ddiogelu bywyd gwyllt, gan wneud anifeiliaid ar y campws yn fwy agored i niwed.
Mae'r canfyddiadau'n tynnu sylw at y bwlch hwn ymhlith prifysgolion y Deyrnas Unedig a bydd hynny鈥檔 arwain at alwadau am safonau uwch o ran cefnogi a diogelu bywyd gwyllt.
Dywedodd Sean McMenemy, cyfarwyddwr Ark Wildlife,聽 "Mae'n amlwg bod rhai prifysgolion yn cymryd cadwraeth bywyd gwyllt o ddifrif, ac mae'n wych gweld hyn. Maent wir yn deall anghenion yr amgylchedd lleol ac yn darparu cynefinoedd amhrisiadwy i anifeiliaid yn yr ardal.
"Yn bwysig ddigon, mae'r prifysgolion mwyaf cyfeillgar i fywyd gwyllt yn mynd ati i annog myfyrwyr i gymryd rhan. Bydd hyn yn magu mwy o ymwybyddiaeth o ddulliau cadwraeth ac o ba mor hanfodol yw bywyd gwyllt i'r Deyrnas Unedig. Gobeithio y bydd y graddedigion hynny hefyd yn meithrin cariad gydol oes at anifeiliaid a'r amgylchedd.鈥