Podlediad ‘Bangor Sport Science’
Mae'r Ysgol Seicoleg a Gwyddor Chwaraeon wedi creu podlediad misol newydd sbon lle caiff nifer o westeion gwahanol eu gwahodd i roi cipolwg arbenigol ar amrywiaeth o bynciau'n ymwneud ag iechyd a pherfformiad.
Yn y bennod gyntaf, mae'r cyflwynydd Dr Aamer Sandoo (Uwch Ddarlithydd mewn Ffisioleg Chwaraeon ac Ymarfer) yn croesawu Dr Seren Evans i drafod anafiadau di-gyswllt yn Rygbi’r Undeb a pham ei bod yn bwysig deall peryglon cudd cyfergydion yn y gamp. Yn yr ail bennod croesewir Dr Vicky Gottwald i rannu ei harbenigedd am sut mae ymarferwyr caffael sgiliau yn darparu arbenigedd mewn perthynas â ffenomena caffael sgiliau allweddol a bydd yn siarad am sawl myth am hyfforddi yn ogystal â meysydd o arfer da. Gellir dod o hyd i'r podlediad ar bob un o’r prif lwyfannau podlediadau a rhywbeth go unigryw yw bod pob pennod hefyd yn cael ei ffilmio. Meddai Aamer, "Mae'r gallu i wylio pob sioe yn golygu bod gwell cyswllt â'r gynulleidfa gan fod hynny’n dod ag elfen ddynol i'r podlediadau. Mae'r opsiwn i wrando ar y sain neu wylio'r fideo hefyd yn rhoi hyblygrwydd o ran sut mae'r gynulleidfa'n rhyngweithio â'r cynnwys. Bydd pennod yn cael eu rhyddhau bob mis a bydd penodau bonws hefyd yn achlysurol. Gallwch wrando ar y bennod gyntaf yma:
neu gallwch wylio’r fideo yma: , tra gellir dod o hyd i'r ail bennod yma: a'r fideo yma: .