Datblygu chwaraewyr rygbi - fframwaith newydd Lloegr yn tynnu ar arbenigedd ymchwil gwyddoniaeth chwaraeon yng Nghymru
Mae fframwaith newydd i ddatblygu chwaraewyr rygbi ar bob lefel, a lansiwyd gan Undeb Pêl-droed Rygbi Lloegr (RFU), wedi tynnu ar arbenigedd ymchwilwyr seicoleg chwaraeon o Brifysgolion Abertawe a Bangor
Mae fframwaith newydd i ddatblygu chwaraewyr rygbi ar bob lefel, a lansiwyd gan Undeb Pêl-droed Rygbi Lloegr (RFU), wedi tynnu ar arbenigedd ymchwilwyr seicoleg chwaraeon o Brifysgolion Abertawe a Bangor
Ìý
Mae'r fframwaith yn amlinellu'r hyn sydd ei angen er mwyn i chwaraewyr wneud y mwyaf o'u hamser yn y gêm, p'un a ydyn nhw'n chwarae yn rhyngwladol neu’n lleol. Cynlluniwyd y strategaeth i sicrhau y canolbwyntir ar y chwaraewyr unigol, er y gallant fod yn rhan o un neu sawl tîm.Ìý
Mae'r Athro Camilla Knight (arweinydd y project) o Brifysgol Abertawe yn arbenigo ar rwydweithiau cymorth i blant a phobl ifanc sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon, yn enwedig swyddogaeth rhieni.Ìý Roedd ei gwaith ar y project hwn yn cynnwys casglu data gan chwaraewyr RFU o wahanol wersylloedd hyfforddi dros sawl blwyddyn, gan weithio hefyd gyda'r tîm llwybr chwaraewyr.
Ìý
Mae Dr Ross Roberts a’r ymchwilydd ôl-raddedig Alexandra Turner o Sefydliad Seicoleg Perfformiad Elitaidd Prifysgol Bangor (ipep.bangor.ac.uk.) yng nghamau olaf project a ariennir gan RFU sy'n archwilio'r ffactorau seicogymdeithasol, ymarfer a hyfforddiant, a demograffig sy'n dylanwadu ar wahanol gamau dilyniant yn natblygiad rygbi. Yn rhan o’u gwaith buont yn cyfweld â rhai o’r chwaraewyr rygbi goraf erioed gan gasglu data hefyd gan chwaraewyr dan 18 a dan 20, ynghyd â gan eu hyfforddwyr.
Bu canfyddiadau ymchwil Bangor, ynghyd â degawd o waith yr Athro Knight ar ran rhieni a rhwydweithiau cymorth mewn rygbi a chwaraeon eraill, yn gymorth i lunio'r fframwaith RFU, yn benodol yr adrannau ar nodweddion seicogymdeithasol a chefnogaeth gymdeithasol.ÌýÌýÌý Ìý
Ìý
Un o nodau'r fframwaith yw y bydd pob chwaraewr, waeth beth yw eu safle, yn dysgu sut i weithredu tair egwyddor y gêm: ymosod, amddiffyn a chystadlu, gan ddatblygu hefyd eu sgiliau o ran lleoli eu hunain ar y cae.
Ìý
Mae rhaglen ddatblygiadol yn darparu ar gyfer anghenion penodol chwaraewyr. Gwneir pob penderfyniad er eu budd gorau ac ar gyfer eu datblygiad tymor hir. Rhan o hyn fydd y cyfle i chwarae mewn amrywiol gystadlaethau ac o bosib mewn sawl safle gwahanol.
Ìý
Bydd yr egwyddorion datblygiad corfforol yn paratoi chwaraewyr ar gyfer unrhyw chwaraeon ac oes o weithgaredd corfforol.
Dywedodd yr Athro Camilla Knight o Brifysgol Abertawe:
Ìý
“Mae'r fframwaith hwn eisoes yn cael ei weithredu, gan helpu chwaraewyr i ddatblygu. Ar hyn o bryd rwy'n arwain y gwaith o gyflwyno rhannau ohono ar draws holl Academïau Rygbi Lloegr a chyda Thimau Lloegr dan 18 a dan 20.
Ìý
Gan weithio gyda Martin McTaggart a chydweithwyr, rydym hefyd yn cynhyrchu cyfres o adnoddau addysg ar-lein i hyfforddwyr gefnogi eu dysgu a'u datblygiad yn y maes hwn, a gânt eu cyflwyno dros y 12 mis nesaf.
Ìý
Mae fy rhan yn y project hwn yn ganlyniad perthynas waith o bron i bum mlynedd gyda Don Barrell, arweinydd llwybr chwaraewyr RFU.Ìý Mae'n dangos sut y gall cydweithredu rhwng cyrff chwaraeon a gwyddonwyr chwaraeon arwain at welliannau i bawb sy'n chwarae chwaraeon, ar ba bynnag lefel."
Dywedodd Dr Ross Roberts o Brifysgol Bangor:
Mae'n wych gweld sut y gall y cydweithrediad rhwng ymchwilwyr o Gymru mewn gwahanol feysydd Seicoleg, gwyddoniaeth chwaraeon, a chyrff chwaraeon baratoi'r ffordd i greu lles i bawb drwy newidiadau ar sail tystiolaeth. Bu’n bleser gweithio gyda Camilla a'r tîm llwybr yn yr RFU; maent yn flaengar iawn yn eu meddwl ac mae'r fframwaith newydd hwn ar flaen y gad o ran dulliau modern o ddatblygu pobl ifanc yn chwaraewyr medrus ac yn bobl dda. Rwy’n edrych ymlaen at weld sut mae’r fframwaith hwn yn helpu i ddatblygu’r cenedlaethau nesaf o chwaraewyr rygbi yn y DU. Mae'r cydweithrediad rhwng Prifysgolion Cymru ar y mae yma hefyd yn dangos yr ansawdd a'r effaith eithriadol y mae ymchwil gwyddoniaeth chwaraeon Cymru yn ei chael yn ehangach.
Dywedodd Don Barrell, Pennaeth Llwybrau a Rhaglenni Perfformiad yr RFU: Ìý
Ìý
“Fe wnaethon ni greu’r fframwaith hwn oherwydd ein bod ni eisiau gweledigaeth eglur o’r hyn roedd Rygbi Lloegr yn meddwl oedd yn bwysig ar gyfer datblygu chwaraewyr.
Ìý
Yn aml iawn bydd rhan o'r llwybr hwnnw wedi ei mynegi’n groyw ond mae'n ymwneud â'r llwybr cyfan a sut mae’r gwahanol rannau’n gysylltiedig. Nid oes rhyw dric hud i’r datblygu, mae pob taith yn unigryw felly'r hyn sydd ei angen arnoch chi wrth ddatblygu chwaraewyr yw dealltwriaeth o'r fframwaith modern a rhai egwyddorion arweiniol yn gysylltiedig â hynny.
Ìý
Rydym yn ymwybodol iawn hefyd bod angen i’r llwybr fod yn brofiad sy’n ychwanegu gwerth ac sy’n cadw chwaraewyr yn y gêm ac yn datblygu eu hangerdd tuag ato gan y bydd hynny o fudd i rygbi yn gyffredinol.â€
Ìý
Ìý