Mae cyfraniad caredig gan Gronfa Bangor wedi galluogi’r ffotograffydd nodedig o Ddyffryn Ogwen, Rhodri Jones, i gyhoeddi’r gyfrol, Cofion. Mae Cronfa Bangor, a weinyddir gan Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Alumni, yn gronfa sydd wedi ei wneud o roddion gan ein cyn-fyfyrwyr.
Lansiwyd COFION, llyfr ac arddangosfa ffotograffig er cof am yr archaeolegydd o fri a ddarlithwr, John Ellis Jones, a ymroddodd yn ei waith trwy ei oes i Brifysgol Bangor, yn Amgueddfa Storiel fis Hydref 2024. Mae'r llyfr yn cynnwys ffotograffau gan y ffotograffydd enwog, Rhodri Jones, a geiriau gan Manon Steffan Ros a'r Athro Angharad Price o Ysgol y Gymraeg Prifysgol Bangor.
Wrth gofio am waith oes John Ellis Jones, mae’r gyfrol yn cyfoethogi dealltwriaeth myfyrwyr o etifeddiaeth ysgolheigaidd a diwylliannol gyfoethog Prifysgol Bangor dros yr 50 mlynedd diwethaf ac mae’n cadw ei waddol Ewropeaidd yn fyw i genedlaethau’r dyfodol. Mae’r llyfr yn gywaith artistig rhwng awduron ac artistiaid sydd â chysylltiad clos â Phrifysgol Bangor, ac mae’n ysbrydoli’r myfyrwyr presennol i ymwneud â phrojectau tebyg. Hefyd, wrth gyfieithu’r testunau i ieithoedd eraill, mae’r project yn dod â diwylliant a hanes Prifysgol Bangor i gynulleidfa ryngwladol.
Daeth 80 o bobl i lansiad COFION, ac ers hynny daeth oddeutu 300 o bobl o’r gymuned i’r arddangosfa, gan gynnwys myfyrwyr ac aelodau o staff Prifysgol Bangor. Cafodd sylw ar Radio Cymru, yng nghylchgrawn 'Barn', y wasg leol, yn ogystal â gwefan genedlaethol y BBC 'Cymru Fyw'.
Pleser mawr oedd gweithio ar y llyfr a'r arddangosfa gyda Rhodri Jones, gan sicrhau bod myfyrwyr presennol Prifysgol Bangor, yn ogystal a^'r gymuned leol, yn dod i wybod am waddol addysgol ac ysgolheigaidd John Ellis Jones. Diolch i Gronfa Bangor am helpu i wireddu'r prosiect.
Rydym yn falch iawn bod y cynhyrchiad wedi datblygu i’r fath fodd. Diolchwn yn ddiffuant i'n rhoddwyr am gefnogi Cronfa Bangor. Bu eu cyfraniadau’n fodd i’r brifysgol gefnogi projectau dylanwadol a chyfoethogi dealltwriaeth y myfyrwyr o gyfraniadau arwyddocaol John Ellis Jones i’r iaith Gymraeg a’i diwylliant.