Academydd ac ymchwilydd o Ganolfan Prosesu Signalau Digidol yn mynychu Cynhadledd Cyfathrebu a Ffotoneg Asia 2024 yn Beijing, Tsieina.
Aeth Dr Faruk a Ms Jiaxiang He o Ganolfan Prosesu Signalau Digidol i Gynhadledd Cyfathrebu a Ffotoneg Asia 2024, a gynhaliwyd yn Beijing, Tsieina. Mae cynhadledd Cyfathrebu a Ffotoneg Asia, sydd wedi cael ei chynnal yn flynyddol ers 2001, yn un o'r cynadleddau mwyaf yn rhanbarth Asia a鈥檙 M么r Tawel, ac mae鈥檔 cwmpasu cyfathrebu optegol, ffotoneg a thechnolegau perthnasol.
Rhoddodd Dr Faruk sgwrs wahoddedig ar dechnolegau uwch mewn perthynas 芒 rhwydweithiau optegol goddefol, a chyflwynodd Jiaxiang ddau bapur cyfrannol, un ar ddiogelwch haenau ffisegol, a鈥檙 llall ar rwydweithiau cydgyfeirio ffibr-diwifr.
Gwnaethant ychwanegu gwerth pellach i鈥檞 taith yn ystod eu hamser yn Tsieina, a chawsant amser i ymweld 芒鈥檙 Prif Labordy Opteg Ffibr Arbenigol a Rhwydweithiau Mynediad Optegol ym Mhrifysgol Shanghai, lle buont yn trafod eu hymchwil arloesol parhaus ar gyfer gofynion cyfathrebu yn y dyfodol.