Hawliau Mynediad neiniau a theidiau i wyrion ac wyresau
Carys Dunlop-Lloyd (Myfyriwr)
Yng Nghymru a Lloegr nid oes hawl cyfreithiol awtomatig i neiniau a theidiau gael cyswllt â'u hwyrion, ond mae camau y gellir eu cymryd i gefnogi nain neu daid i wneud cais am gyswllt o'r fath. Y cam cyntaf fyddai ceisio cyd-drafod gyda'r rhieni (neu bobl â chyfrifoldeb rhiant os nad y rhieni) i weld a ellir dod i gytundeb. Os na fydd hyn yn gweithio, efallai y bydd angen gwneud cais i'r Llys.
Cyfarfodydd Asesu a Gwybodaeth am Gyfryngu (MIAM)
Cyn gwneud cais i’r llys, bydd angen i’r nain neu daid fynychu MIAM, a elwir hefyd yn Cyfarfodydd Asesu a Gwybodaeth am Gyfryngu (Mediation Information and Assessment Meetings). Mae MIAMs yn cynnwys defnyddio cyfryngwr teuluol annibynnol, sy’n gweithio gyda’r ddau barti ac yn eu hannog i ddod i gytundeb. Os na cheir cytundeb adeg cyfryngu, gall neiniau a theidiau wedyn wneud cais i'r llysoedd am orchymyn trefniant plentyn.
Trefniant Gorchymyn Plentyn
Yn wahanol i unigolion sydd â chyfrifoldeb rhiant, ni all neiniau a theidiau wneud cais i’r llys am orchymyn trefniant plentyn, rhaid iddynt ofyn am ganiatâd y Llys i wneud y cais. Mae hyn yn golygu llenwi ffurflen llys ychwanegol. Pan ofynnir i lys am ganiatâd, bydd yn ystyried sawl peth megis cydnabod rôl y neiniau a theidiau ym mywyd y plentyn yn ogystal â pham mae cyswllt wedi’i atal a’r effaith ar y plentyn.
Os bydd y Llys yn rhoi caniatâd, gall y neiniau a theidiau wneud cais am orchymyn trefniant plentyn a all benderfynu gyda phwy mae'r plentyn yn dod i gysylltiad â sut mae'r cyswllt yn digwydd. Mae lles y plentyn yn hollbwysig wrth wneud gorchymyn trefniant plentyn. Bydd y Llys yn ystyried y rhestr wirio lles sy’n cynnwys dymuniadau’r plentyn, os yw’n ddigon hen, yr effaith y gallai’r newid ei chael ar y plentyn yn ogystal ag anghenion emosiynol y plentyn.
Ìý
Mae clinig gyfraith Prifysgol Bangor yn gallu cynghori ar drefniadau gorchmynion plant. Os rydych eisiau gwneud apwyntiad i drafod hyn ymhellach, gallwch ein ffonio 01248 388 411 neu ein e-bostio bulac@bangor.ac.uk.