Credwch mewn Newid: Mae sicrhau’r system gefnogaeth briodol yn allweddol i arloesi a thwf busnes.
Y mis yma ym mhodlediad Penny for your Thoughts Ysgol Busnes Bangor, bydd Darren Morely (Rheolwr Cyswllt Busnes) yn ymuno â chyn-fyfyriwr Prifysgol Bangor, Brandon Ristow-Wilson (BIC Innovation Ltd) a Dr Junyu Zhou (Darlithydd mewn Rheolaeth, Ysgol Busnes Bangor). Mae'r bennod yn ymwneud ag arloesi busnes a'r sgaffaldiau a all gefnogi twf. Mae Brandon yn rhannu ei feddyliau arbenigol a’i brofiadau eang gyda BIC Innovation; busnes yng Nghymru sy’n eiddo i’r Gweithwyr ac sy’n ardystiedig trwy B-Corp. Boed yn entrepreneur sy'n tyfu ei fusnes, neu'n fusnes sefydledig sy'n anelu at arloesi, mae system gymorth briodol yn allweddol. Mae'r bennod yn archwilio sut mae technoleg, buddsoddi, a llenwi bylchau sgiliau allweddol yn hanfodol i ysgogi llwyddiant busnes. Hefyd, bydd yn trafod damcaniaethau cyfoes ynglŷn ag arloesi—yn ddeuol, yn gynyddrannol, ac yn radical—a sut y gall busnesau ystyried y gwahanol ddulliau hynny i aros yn gystadleuol a ffynnu yn y farchnad ddeinamig sydd ohoni heddiw.
Gwrandewch ar yr isod:-