Dechreuodd y diwrnod gyda phrif ddarlith gan yr Athro R. Merfyn Jones, a roddodd anerchiad cyflwyniadol craff, dwyieithog a oedd yn dadlau dros berthnasedd ac arwyddocâd hanes fel disgyblaeth academaidd. Yn ei bapur eang, bu’r Athro Jones yn cnoi cil ar ei brofiad ei hun ac yn cynnig myfyrdodau dyfnach ar ystyr hanes. Gosododd hyn y naws ar gyfer gweddill y diwrnod.Â
Yn dilyn egwyl goffi, rhoddodd Ms Shân Robinson, o Archifau’r Brifysgol, sgwrs hynod ddiddorol o’r enw, ‘Bangor: Growth of a City’, a osododd sylfaen y brifysgol yng nghyd-destun cystadleuaeth ehangach datblygiad Bangor. Ymysg y pwyntiau a drafodwyd oedd pwysigrwydd y brifysgol fel ‘dinas dysg’ cyn i’r Brifysgol hyd yn oed gael ei hadeiladu, trwy bresenoldeb y Coleg Normal, Coleg Addysgu Gogledd Cymru, ac Ysgol Friars.
Gan gymryd ysbrydoliaeth o gerdd rymus Gwyn Thomas, a ddarllenir ym mhob seremoni raddio, ‘Y Coleg ar y Bryn’, cafwyd ailddehongliad pwysig gan Dr Shaun Evans o SHILSS a SYYC o sylfaeni Coleg Prifysgol Gogledd Cymru, gyda phapur â’r teitl addas, ‘A dyna’r gwÅ·r a busnes a’r holl rai eraill hynny …’ Dadleuodd Dr Evans mai hanes o gymodi oedd hanes y brifysgol, yn wyneb sectyddiaeth grefyddol, ac un y chwaraeodd aelodau o'r uchelwyr Cymreig ran bwysig ynddi, ochr yn ochr â'r stori draddodiadol sy’n canolbwyntio ar gyfraniadau'r chwarelwyr.Â
Yn dilyn egwyl ginio, cyflwynodd Dr Lowri Ann Rees bapur dwyieithog a oedd yn archwilio ‘Sgandal Coleg Bangor’: Rhywedd, Moesoldeb Oes Fictoria, a Choleg Prifysgol Gogledd Cymru, 1892’. Roedd y papur hwn yn cyflwyno’r Coleg Prifysgol Gogledd Cymru a oedd newydd gael ei ariannu yn ei gyd-destun Fictoraidd, gan archwilio’n benodol sut roedd myfyrwyr benywaidd yn cael eu trin a’r hyn a oedd yn ddisgwyliedig gan gymdeithas ohonynt.
Traddodwyd y papur olaf ond un gan Dr Marc Collinson, dan y teitl, 'Building History: A History of Â鶹´«Ã½¸ßÇå°æ through 10 buildings'. Roedd y sgwrs hon yn olrhain datblygiad y Brifysgol dros 140 blynedd trwy brism 10 eiddo allweddol a chwaraeodd ran bwysig yn ei hanes, o sut y cafodd ei ffurfio gan newid cymdeithasol a phensaernïol, i sut y daeth y brifysgol yn fwy o ran o Fangor, a’i drawsnewid i fod yn sefydliad 'dinas prifysgol'.Â
I gloi’r diwrnod hynod lwyddiannus, cyflwynodd yr Athro Tony Claydon, Arweinydd Pwnc ar gyfer Hanes yn yr Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas, ychydig sylwadau ynghylch pa mor ganolog yw hanes i addysg prifysgol. Roedd hyn, yn wir, yn hynod briodol ar gyfer cynhadledd a oedd yn dathlu ac yn archwilio’n ofalus hanes Prifysgol Bangor.