Ymweliad â’r Gynhadledd Ymchwil Fyd-eang ar Farchnata ac Entrepreneuriaeth (GRCME), Prifysgol Rutgers New Jersey, Google a Datadog yn Efrog Newydd
Gwnaeth yr Athro Rosalind Jones hedfan i UDA i'r Gynhadledd Ymchwil Fyd-eang ar Farchnata ac Entrepreneuriaeth (GRCME) ym mis Awst, a gynhaliwyd gan Brifysgol Rutgers, New Jersey. Cyflwynwyd gwobr o fri Cymdeithas Marchnata America (AMA) i Roz â’i chyd-awduron gan y Grŵp Diddordeb Arbennig mewn Marchnata Entrepreneuraidd (SIG).
Mynegodd Cadeirydd y Grŵp Diddordeb Arbennig, yr Athro Stern O'Neill yn y seremoni wobrwyo mai Roz oedd y cyntaf i ennill y wobr hon ddwywaith, gan iddi wneud hynny’n flaenorol yn 2020. Fel aelod tymor hir o fwrdd ymgynghorol GRCME, gwahoddwyd Roz i ymuno â phanel athrawol y consortiwm doethurol, i gynghori myfyrwyr doethurol addawol ar eu hymchwil.
Roedd Roz hefyd yn aelod o’r bwrdd trafod mewn sesiwn arbennig dan y teitl ‘AI at the Marketing and Entrepreneurship Interface’, yn trafod ei phryderon ynghylch Deallusrwydd Artiffisial o safbwynt Golygydd Cyfnodolyn, fel Prif Olygydd y Journal of Research in Marketing and Entrepreneurship (JRME).
Cyflwynodd Roz hefyd bapur a gyd-ysgrifennodd gyda Liz Heyworth-Thomas o dan y teitl ‘Entrepreneurial marketing and commercialisation: scientific/engineering entrepreneurs’ oedd wedi’i seilio ar broject PRF Cyngor Ymchwil Peirianneg a’r Gwyddorau Ffisegol (EPSRC) gyda'r Quantum Technology Hub, Prifysgol Birmingham.
Ymwelodd cyfranogwyr y gynhadledd GRCME hefyd â chyflwyniadau gan Lukman Ramsey, Pennaeth Deallusrwydd Artiffisial ac Addysg yn swyddfa Google yn Efrog Newydd a Sara Varni, Prif Swyddog Marchnata, a Ben Shiffman, Pennaeth Rhaglennu, yn Datadog, cwmni dadansoddeg data byd-eang yn Efrog Newydd.  Â