![Prof Charlotte Williams](/sites/default/files/styles/scale_900/public/2024-09/Charlotte%20Williams.jpg?itok=SQ41OJy1)
Mae eleni'n nodi 25 mlynedd o'r setliad datganoli lle gosodir cydraddoldeb hiliol fel dyhead cyfansoddiadol.  Yn y ddarlith hon, bydd yr Athro Williams yn cynnig golwg ar ymrwymiad Llywodraeth Cymru yn y gorffennol, y presennol a'r dyfodol mewn perthynas â chydraddoldeb hiliol. Bydd hi’n awgrymu bod y cyfnod datganoli wedi’i nodi gan dri chyfnod gwahanol, pob un wedi’i seilio ar ragdybiaethau a dulliau penodol o ymdrin â newid, gan erfyn y cwestiwn: a all llywodraethau newid a mynd i’r afael ag anghydraddoldebau hiliol yn gynhwysfawr?
Bydd yr Athro Williams yn manteisio ar gyfle Darlith yr Archif Wleidyddol Gymreig i lansio ei chyfrol newydd, a gyd-olygwyd gyda’i chydweithiwr, Neil Evans, (Gwasg Prifysgol Cymru, 2024).Â
![Globalising Welsh Studies](/sites/default/files/styles/scale_900/public/2024-09/Globalising%20Welsh%20Studies.jpg?itok=MKr1b16E)
I fynychu'r ddarlith am ddim hon, gweler gwefan i archebu tocynnau.
Bydd Charlotte, Neil a dau o gyfranwyr y gyfrol, Dr Marian Gwyn a Dr Gareth Evans-Jones, hefyd yn cynnal seminar i lawnsio'r llyfr yn Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas ym Mhrifysgol Bangor ddydd Mercher 16eg o Hydref am 5yh. Cadarnheir union leoliad y seminar yn fuan.