08/24 Profion Pwysedd Gwaed i Staff
Mae Prifysgol Bangor yn cymryd rhan yn Wythnos Gwybod Eich Rhifau am y drydedd flwyddyn; ac fel rhan o’r ymgyrch genedlaethol hon, mae ein Gwasanaeth Iechyd Galwedigaethol yn cynnig profion pwysedd gwaed, cyfrinachol, am ddim. Mae Blood Pressure UK yn amcangyfrif bod bron i chwe miliwn o bobl yn y Deyrnas Unedig yn byw gyda phwysedd gwaed uchel yn ddiarwybod, felly mae’r holl staff yn cael eu hannog i neilltuo amser i ddod i’r sesiynau hyn, neu efallai ystyried gwneud prawf gartref.ÌýÌý
Ìý
Yn ystod y digwyddiadau a gynhaliwyd yn 2022 a 2023, daeth dros 150 o aelodau staff i sesiynau ym Mangor, Wrecsam a Phorthaethwy i gael eu prawf pwysedd gwaed am ddim. Derbyniodd y rhan fwyaf ddarlleniadau o fewn yr ystod arferol, ac roedd y profiad yn galonogol i nifer. Cafwyd rhai llwyddiannau arwyddocaol hefyd, gyda rhai unigolion yn cael eu cyfeirio at eu meddyg teulu am driniaeth, a oedd yn eu galluogi i ddod â’u pwysedd gwaed i ystod iach dros amser.ÌýÌý
Ìý
Ìý
Eleni, rydym yn cynnig apwyntiadau y gallwch eu trefnu ymlaen llaw i gydweithwyr ym Mangor a Wrecsam:ÌýÌý
Ìý
I drefnu apwyntiad yn Wrecsam (Ystafell 10 yn Cambrian 1) ddydd Mercher 4 Medi, cliciwch .Ìý
Ìý
I drefnu apwyntiad ym Mangor (Ystafell Ddosbarth Brailsford) ddydd Iau 5 neu ddydd Gwener 6 Medi, cliciwch .Ìý
Ìý
Ìý
Meddai Blood Pressure UK:Ìý
Ìý
“Ein thema ar gyfer 2024 yw: Gennych Chi mae'r Grym!ÌýÌýÌýÌýÌý Ìý
Ìý
“Rydym yn gwybod nad yw deall pam ei bod yn bwysig gwybod eich pwysedd gwaed, a chymryd yr amser i'w fesur, bob amser yn flaenoriaeth diolch i holl brysurdeb bywyd dydd i ddydd. Fodd bynnag, a wyddoch chi mai cael prawf pwysedd gwaed yw’r cam cyntaf i atal strôc a thrawiadau ar y galon? Pwysedd gwaed uchel yw un o brif achosion y clefydau hyn, ond fel arfer, nid oes unrhyw symptomau nes ei bod hi'n rhy hwyr, a dyna pam y'i gelwir yn 'laddwr tawel'. Mae gwybod eich rhifau yn golygu y gallwch ddechrau gwneud newidiadau iach i'ch ffordd o fyw neu ddechrau cymryd meddyginiaethau os oes eu hangen arnoch i ddod â'ch pwysedd gwaed i lefel iach. Felly, chi sydd â’r grym i wirio eich pwysedd gwaed i weld a yw dan reolaeth.â€Ìý
Ìý
Ìý
Er mai nifer cyfyngedig o apwyntiadau yn y cnawd sydd gennym, y ffordd hawsaf o olrhain eich pwysedd gwaed dros amser yw monitro yn y cartref. Mae rhagor o wybodaeth ar gael .
ÌýÌý
Gallwch hefyd ofyn am brawf pwysedd gwaed gan eich meddyg teulu neu fferyllydd lleol.ÌýÌý
Ìý
Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau am Wythnos Gwybod Eich Rhifau yn y brifysgol, cysylltwch â iechydallesstaff@bangor.ac.ukÌýÌý
Profion Pwysedd Gwaed i Staff 4-6 Medi 2024

Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau am Wythnos Gwybod Eich Rhifau yn y brifysgol, cysylltwch â staffhealthandwellbeing@bangor.ac.ukÌýÌý