Â鶹´«Ã½¸ßÇå°æ

Fy ngwlad:

Y llynedd lansiodd a Safbwynt(iau), rhaglen dwy flynedd sy’n ceisio sicrhau newid yn y sector treftadaeth drwy gomisiynu gwaith sy’n adlewyrchu amrywiaeth ddiwylliannol ac ethnig Cymru ac yn dod â lleisiau, profiadau a hanesion ymylol i’r blaendir. Cafodd pob un o saith amgueddfa Amgueddfa Cymru ei paru â sefydliad celfyddydau gweledol, ac aeth y sefydliadau hyn ati i gyflogi gweithiwr creadigol proffesiynol o gefndir  ddiwylliannol ac ethnig amrywiol i greu gwaith ac arddangosfeydd newydd yn ymateb i’r safle penodol a’i gasgliadau.

Cydweddwyd Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru yng Nghaerdydd â , menter gymdeithasol a arweinir gan artistiaid sy’n gweithio gydag agendâu cyfiawnder cymdeithasol, amgylcheddol, hiliol a chymunedol, a ymgysylltodd â fel yr artist arweiniol. Mae Nasia yn olygydd, yn awdur, yn artist ac yn hwylusydd creadigol sy’n canolbwyntio ar wladychu India/Pacistan, mudo a dad-drefedigaethu yn ei gwaith creadigol. Dros y misoedd diwethaf, mae Nasia a Ways of Working wedi datblygu cyfres o osodiadau creadigol mewn mannau amlwg o amgylch yr amgueddfa sy'n amlygu gwrthrychau yn y casgliad sydd â chysylltiadau trefedigaethol ac yn amlygu lleisiau ymylol. Mae gosodiad rhyngweithiol yn atriwm yr amgueddfa yn gofyn cwestiynau am themâu o wladychiaeth, pŵer ac amgueddfeydd i ymwelwyr, megis 'Yr ymerodraeth Brydeinig oedd...?' a 'Beth yw swydd yr amgueddfa o fewn cymdeithas?', gan wahodd ymatebion ar 'post-it notes'; mae hwn yn osodiad deinamig gyda chwestiwn newydd bob mis ac ymatebion newydd yn cael eu hychwanegu bob awr, ac mae ei leoliad yn golygu bod ymwelwyr yn gweld y cwestiwn ar eu ffordd i mewn felly mae hi ar flaen eu meddwl wrth iddynt grwydro'r amgueddfa.

Mae tri o osodiadau Nasia wedi amlygu’r cysylltiad rhwng Sain Ffagan a’r teulu Clive, yn arbennig Robert Clive (1725-1774), a adnabyddir fel ‘Clive of India’, gwladychwr a ehangodd yr Ymerodraeth Brydeinig ar draws De Asia, gan ysbeilio a gwneud ei hun yn amlfiliwnydd yn y broses. Er efallai bod Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru yn fwyaf adnabyddus fel amgueddfa awyr agored sy’n llawn adeiladau wedi’u hailgodi, yng nghanol yr amgueddfa mae Castell Sain Ffagan, maenordy o oes Elisabeth a godwyd ar safle castell canoloesol, a roddwyd yn rhodd i Amgueddfa Genedlaethol Cymru yn 1946, ac ar dir pwy y sefydlwyd yr amgueddfa awyr agored. Er i Gastell Sain Ffagan gael ei adeiladu gan ddyn lleol, erbyn 1736 daeth i feddiant y teulu Windsor o Loegr, sef Ieirll Plymouth. Unwyd y trupy Windsor a’r teulu Clive ar briodas Harriet Windsor (1797-1869), chwaer iau y 6ed Iarll Plymouth, â Robert Henry Clive (1789-1854), ŵyr i ‘Clive of India’, yn 1819. Etifeddodd Harriet a Robert ill dau ystadau eu teuluoedd, ac felly unwyd ystadau Windsor a Clive, ac yn 1855 cawsant drwydded frenhinol i fabwysiadu’r cyfenw ‘Windsor-Clive’. Yr oedd hwn yn undeb buddiol i'r ddwy ochr - roedd y teulu Windsor yn hen deulu bonheddig o dras Sacsonaidd a ddyrchafwyd i’r bendefigaeth gan y Brenin Wiliam I, felly daeth y cysylltiad hyn a statws mawr i'r teulu Clive. Ar y llaw arall, daeth y teulu Clive â'u ffortiwn trefedigaethol a'u 'bri milwrol', a parhaodd cenedlaethau olynol o deulu Windsor-Clive i'w bwysleisio; roedd monograff a gyhoeddwyd ar ddyfod-i-oed Robert George Windsor-Clive (1857-1923) yn atgoffa tenantiaid ‘to Robert Clive – to his boldness in council and daring in war – Great Britain is indebted in a great measure for the creation and establishment of her Indian Empire’. Parhaodd y cysylltiad teuluol â’r Ymerodraeth Brydeinig - gwasanaethodd Other Windsor-Clive (1884-1908) fel aide-de-camp i Iarll Minto, Viceroy India, a bu farw o dwymyn teiffoid yn Agra ym 1908.

Llun o prif ffasad plasdy o'r enw Castell Sain Ffagan, sydd wedi ei rendro a'i olchi â chalch.
Prif ffasâd Castell Sain Ffagan.

Mae Nasia wedi tynnu sylw ymwelwyr at hanes trefedigaethol y teulu Clive mewn gosodiad yn oriel ‘Cymru...’. Yma mae hi wedi ail-greu ystafell fyw o’i hatgofion o dyfu i fyny ar aelwyd De Asiaidd yng ngogledd Lloegr ar ddiwedd y 1970au a dechrau’r 1980au, wedi’i llenwi â ffotograffau ei theulu ei hun. I lawer o deuluoedd alltud o Dde Asia, roedd yr ystafell fyw yn lle diogel, cartrefol mewn amgylchedd newydd a oedd yn aml yn elyniaethus. Ond yng nghanol y sîn ddomestig gyfarwydd hon mae soffa giltwood o’r ddeunawfed ganrif a oedd yn rhan o swît pedwar darn ar bymtheg yr oedd ‘Clive of India’ wedi’i . Prynwyd y soffa gan Amgueddfa Genedlaethol Cymru ym 1958, ac mae wedi eistedd yn Oriel yr Argraffiadwyr yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd braidd yn anamlwg ers hanner canrif. Fe’i symudwyd i Sain Ffagan yn arbennig ar gyfer gosodiad Nasia, lle mae’n eistedd fel y canolbwynt a lle mae’r sylw o’r diwedd wedi'i droi ar y gwladychwr. Mae Nasia hefyd wedi cynnal cyfres o sgyrsiau gyda ffrindiau i'r prosiect yn y gofod hwn.

Ffotograff o osodiad gan Nasia Sarwar-Skuse, ystafell fyw wedi'i hail-greu gyda soffa goch gywrain yn y canol.
Gosodiad Nasia yn oriel ‘Cymru...’, gyda soffa Clive yn ganolbwynt.

Mewn plasdai Clive eraill fel Castell Powys, sydd bellach dan ofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, mae cysylltiadau trefedigaethol y teulu yn amlwg yn addurniadau mewnol a chynnwys y tŷ. Mae Castell Powis yn dal dros fil o arteffactau o Dde Asia a ysbeiliwyd neu a gaffaelwyd gan ‘Clive of India’, ei fab Edward Clive, Iarll 1af Powis (1754-1839), a’i ferch-yng-nghyfraith Henrietta Herbert (1758-1830), sef yr casgliad preifat mwyaf o'r math hwn yn y Deyrnas Unedig. Ers 1987 mae’r rhain wedi’u harddangos yn yr yn yr hen Ystafell Filiards. Yng Nghastell Sain Ffagan mae hanes y teulu Clive ychydig yn llai amlwg, i’r graddau bod llawer o ymwelwyr yn gwbl anymwybodol o’r cysylltiadau trefedigaethol. Mae Nasia wedi tynnu sylw i hyn trwy rhoi gosodiad trawiadol yn yr ystafell fwyaf cyhoeddus yn y tŷ, sef y Neuadd. Dyma ailgread o balas symudol  Tipu Sultan (1750-1799) neu 'Teigr Mysore', rheolwr Teyrnas Mysore, sydd wedi'i wneud o chintz wedi'i baentio. Ysbeiliwyd y babell gan Edward Clive, a ddaeth i Gastell Powis lle y defnyddid ef ar gyfer partïon gardd. Mae Nasia yn rhannu ei hargraffiadau ar ei chyfarfyddiad cyntaf â’r babell yn ‘Amgueddfa Clive’ yn ei darn , a enillodd wobr Queen Mary Wasafiri. Mae’r babell a ail-grewyd yng Nghastell Sain Ffagan hefyd yn cynnwys detholiadau ysgrifenedig o gyfnodolyn breuddwydiol Tipu Sultan, gan greu deialog ar draws canrifoedd rhyngddo ef a Nasia.

If the tent could speak, it might tell the names of the artisans who spread out the fabric and carried out mathematical equations to ensure the canopy was cut accurately. It may recall the hands holding threaded needles as they stitched the black and white rosette band that runs along the along the top of its qanat section. Or explain the meaning of the scripts in faint black stamps on its red cotton. Would it divulge the dreams that Tipu recorded in his journal each day whilst ensconced in its lavish floral interior, lying on luxurious sheets of silk? It may tell of its journey across the sea and how, for many years as a final insult to rub salt on colonial wounds, it was made to serve as a marquee for garden parties. But for now, it lies shrouded.

Nasia Sarwar-Skuse
Pabell gydag addurniadau blodau wedi'u paentio ar y tu allan ac ysgrifen ar y tu mewn yn eistedd yng nghanol ystafell fawreddog.
Gosodiad Nasia yn y Neuadd yng Nghastell Sain Ffagan - ail-greuad o balas symudol Tipu Sultan.
To pabell gyda phatrwm blodau coch a du cywrain.
Golwg agosach ar y babell a ail-grewyd, gyda'i phatrwm blodeuog cywrain.

Ymwreiddiwyd ffortiwn trefedigaethol y teulu Clive yn ystâd Windsor-Clive, gan ariannu gwaith adeiladu a thirlunio yng Nghastell Sain Ffagan yng nghanol y cyfnod Fictoraidd. Fel rhan o’r prosiect Safbwynt(iau) a chan ragweld agoriad gosodiadau Nasia, cefais wahoddiad i roi sgwrs i staff yr amgueddfa ar ba rannau’n union o’r tŷ a’r gerddi a grëwyd gyda’r ffortiwn hwn. Yn ystod y cyfnod hwn gwelwyd ychwanegiadau i gefn y tŷ, gan gynnwys bloc gweision newydd i ddod â llety’r gweision yng Nghastell Sain Ffagan i fyny i safonau Fictoraidd ar ôl cyfnod hir o absenoldeb, a thrawsnewid sgarp deg metr uwchben y pyllau pysgod i mewn i gyfres o derasau ffurfiol. Manylwyd ar y ddau ychwanegiad hyn mewn cynllun ddyfrlliw o tua 1855 gan Robert Windsor-Clive (1824-1859), gor-ŵyr i ‘Clive of India’. Er i Robert Clive farw ym 1859, ymdrechodd ei fam Harriet a'i weddw Mary i wireddu ei syniadau dros y degawd nesaf. Crëwyd y bloc gweision a’r terasau mewn arddull Gothig, gan orliwio faint o ffabrig canoloesol a oroesodd ar y safle a gwneud i’r tŷ ymddangos yn debycach i gastell; efallai roedd hyn yn ymgais gan y teulu Windsor-Clive i atgoffa eu tenantiaid o’u pedigri a’u cysylltiadau â’r Oesoedd Canol. Adeiladwyd bloc y gweision ym 1867-69 yn yr arddull Barwnol Albanaidd gyda thyred conigol; roedd y ffordd yr oedd wedi'i integreiddio â'r llenfur canoloesol yn gwneud iddo ymddangos yn debyg i gaer ac yn llawer talach nag yr oedd mewn gwirionedd. Roedd y terasau, a adeiladwyd ym 1864-71, hefyd yn Gothig eu cymeriad, gyda Thŵr Gwylio, bylchfuriau, llwybr wal, a bwtresi mawr. Yn bensaernïol, mae’r ychwanegiadau hyn wedi’u hintegreiddio mor llwyddiannus â gweddill y tŷ a’r gerddi fel bod ffynhonnell yr arian a ddefnyddiwyd i’w creu wedi’i hanwybyddu’n hanesyddol.

Mae’n bosibl bod ymwelwyr i’r amgueddfa wedi sylwi ar y balwstradau carreg cerfiedig wedi’u gwau ar hyd y terasau ac yn coroni to’r Tŵr Gwylio a thyred bloc y gweision. Mae'r hyn sy'n ymddangos ar yr olwg gyntaf yn nodwedd addurniadol, gyda motiffau croes a seren bob yn ail, mewn gwirionedd ag ystyr llawer mwy arwyddocaol. Gyda’r croesletau’n cynrychioli’r teulu Windsor a’r seren bum pwynt yn cynrychioli’r teulu Clive, mae’r ‘balwstradau Windsor-Clive’ hyn yn cynrychioli undeb dau deulu, gan ei osod mewn carreg yn llythrennol. Maent yn atgoffa rhywun o arysgrifau parapet o oes Elisabeth a Jacobeaidd, megis y rhai yn Neuadd Hardwick a oedd yn arddangos llythrennau blaen Bess of Hardwick ar draws y to. Mabwysiadodd 'Clive of India' y seren bum pwynt yn ogystal ag eliffantod ar ei arfbais i gynrychioli ei gysylltiadau ag India, ac yn ddiweddarach cafodd y seren bum pwynt ei hadnabod fel 'Seren India' ac fe'i defnyddiwyd ar fflagiau yn ystod cyfnod Raj Prydain yn is-gyfandir India. Heb os nac oni bai, y balwstradau yw’r amlygiad pensaernïol mwyaf amlwg o gysylltiad trefedigaethol y teulu Clive yng Nghastell Sain Ffagan. Mae yna arwyddocad i bedwerydd gosodiad Nasia, sef ffilm o’r enw ‘Absent Presence’ sy'n chwarae yn Ystafell Fwyta'r Castell ac yn cynnwys Sanea Singh, a aned ac a fagwyd yn India, yn dawnsio ar y terasau ac o flaen y balwstradau Windsor-Clive, gan hawlio'r gofod hyn.

Balwstradau carreg gyda siapiau croes a seren pum pwynt bob yn ail.
'Balwstradau Windsor-Clive' ar y terasau yng Nghastell Sain Ffagan, sy'n cynrychioli undeb y ddau deulu.

Estynnaf fy llongyfarchiadau cynhesaf i Nasia a Ways of Working am greu gwaith mor bwerus sydd wedi dod â chysylltiadau trefedigaethol Castell Sain Ffagan i sylw ymwelwyr â’r amgueddfa. Ar ben hynny, mae'r gwaith yn canolbwyntio ar dreftadaeth De Asia ac yn amlygu lleisiau sydd wedi bod yn gysylltiedig â Chastell Sain Ffagan am amser maith, ond sydd wedi bod yn dawel tan heddiw. Byddwn yn annog pawb i ac i weld Castell Sain Ffagan mewn golau newydd.

(Gan Bethan Scorey, gyda diolch i Nasia Sarwar-Skuse a Ways of Working am eu caniatâd. Lluniau: Wales News Service / Amgueddfa Cymru.)