Mynychodd cydweithwyr o Goleg y Celfyddydau, Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithasol symposiwm Cydweithrediad Academaidd Plismona Cymru Gyfan, sef rhwydwaith arloesol a sefydlwyd yn 2022 i ddatblygu ymchwil plismona yng Nghymru.
Dywedodd Dr Bethan Loftus, sy鈥檔 cynrychioli Cydweithrediad Academaidd Plismona Cymru Gyfan yn y Brifysgol,
"Mae Cydweithrediad Academaidd Plismona Cymru Gyfan yn uno pob un o bedwar heddluoedd Cymru, swyddfeydd y pedwar Comisiynydd Heddlu a Throseddu, a phob un o鈥檙 naw prifysgol yng Nghymru, gyda chymorth Rhwydwaith Arloesedd Cymru, a鈥檙 nod yw mynd i鈥檙 afael 芒 heriau allweddol yn y maes plismona drwy ymdrechion cydweithredol. Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae Cydweithrediad Academaidd Plismona Cymru Gyfan wedi dyfarnu swm bach o gyllid grant i wyth project effeithiol. Roedd y symposiwm yn arddangos canlyniadau a chanfyddiadau鈥檙 projectau hyn, gan bwysleisio eu cyfraniadau at wella arferion plismona yng Nghymru."
Dyfarnwyd cyllid i Fangor ar gyfer dau broject. Arweiniodd yr Athro Stefan Machura, o Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas, broject ar Effeithiau'r cyfryngau cenedlaethol ar ymddiriedaeth leol a hyder mewn plismona; a Claire Hodgkinson - gyda chefnogaeth yr Athro Martina Feilzer a Dr Bethan Loftus, Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas, yn archwilio Casineb at Fenywod fel Ffactor Risg sy'n arwain at niwed difrifol mewn achosion o gam-drin domestig.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch 芒 Dr Bethan Loftus