Y thema eleni yw dathlu’r gorau o hanes cyfoethog Prifysgol Bangor ac arddangos llwyddiannau’r brifysgol, a bydd yr ysgolion academaidd yn arddangos eu hymchwil a’u gwaith, trwy amrywiol weithgareddau.
Byddwn yn cynnal digwyddiadau traddodiadol hefyd, gan gynnwys aduniad y cyn-fyfyrwyr ddydd Mercher 7 Awst, a digwyddiad i ddarpar fyfyrwyr a myfyrwyr cyfredol brynhawn Gwener 9 Awst.
Trwy gydol yr wythnos, gall cystadleuwyr ac ymwelwyr alw draw i ymarfer ar ein piano; a gwahoddir plant i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau difyr, gan gynnwys byrddau lliwio a swigod Bangor.
A......bydd cwpanau peint amldro Prifysgol Bangor yn dychwelyd!
Uchafbwyntiau'r wythynos:
Dydd Sadwrn, 3 Awst
- Sesiwn ‘Cartŵn Cymdeithaseg’ galw i fewn gyda Dr Rhian Hodges (Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas)
Dydd Llun, 5 Awst
- Lansio'r 'Tystysgrif Addysg i Raddedigion – Anghenion Dysgu Ychwanegol ar lefel Cynradd', y rhaglen gyntaf o’r math yma yng Nghymru.
- Trafodaeth banel ar fentrau dan arweiniad y gymuned gan Ysgol Busnes Bangor; a lansiad podlediad Ysgol Busnes Bangor a recordio byw dan arweiniad Dr Edward Jones a Darren Morley.
Dydd Mawrth, 6 Awst
- Trafodaeth panel 'Rôl diwylliant a’r celfyddydau yn adfywiad cymunedol y Gymru wledig' dan arweiniad Osian Gwynn (Pontio)
- 'Ydyn ni'n byw mewn cymdeithas oddefgar?' trafodaeth banel dan arweiniad Dr Gareth Evans-Jones (Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas).
Dydd Mercher, 7 Awst
- I ddathlu 140 o flynyddoedd ers sefydlu’r brifysgol, cyflwyniad gan yr hanesydd a’r dyn busnes Gari Wyn, 'O Borth Penrhyn i'r Coleg ar y Bryn 1884-1925: Y Cymeriadau Mawr'
- Sesiwn gan Ysgol Feddygol Gogledd Cymru a 'Sut i greu meddygon i Gymru?' gan Dr Nia Jones a'r Athro Angharad Davies; ac aduniad y cyn-fyfyrwyr
Dydd Iau, 8 Awst
- Sesiwn 'Cyflwyniad i'r Clinig Cyngor Cyfreithiol' gan Lois Nash a Tracey Horton (Ysgol Hanes, Y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas).
- Prynhawn yn llawn gweithgareddau ac arddangosiadau gan Dr Martyn Kurr, Dr Dei Huws, Claire Carrington a Rhianna Parry (Ysgol Gwyddorau’r Eigion).
Dydd Gwener, 9 Awst
- Digwyddiad 'Dathlu Hanner Canmlwyddiant JMJ' dan arweiniad Rhian Tomos (Ysgol Addysg);
- Digwyddiad i ddarpar fyfyrwyr a myfyrwyr cyfredol gyda’r band Fleur de Lys,
ѱ岹’r Athro Andrew Edwards, Dirprwy Is-ganghellor y Gymraeg, Ymgysylltiad Dinesig a Phartneriaethau Strategol, “Mae presenoldeb y brifysgol ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn un o uchafbwyntiau mwyaf nodedig y calendr blynyddol, a bydd yn wych cael ymweld â Phontypridd. Mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn gyfle i ni gynnig blas o’r cyfoeth, creadigrwydd a’r amrywiaeth o waith arloesol sy’n cael ei wneud gan y brifysgol yng nghyd-destun y Gymraeg a dwyieithrwydd yng Nghymru”.
Gallwch weld rhaglen lawn Eisteddfod Genedlaethol Prifysgol Bangor yma