Sefydliad Confucius Prifysgol Bangor yn Cyfoethogi Cyfnewid Diwylliannol yn Niwrnodau Rhyngwladol Ysgol David Hughes!
Ymunodd Sefydliad Confucius Prifysgol Bangor ag Ysgol David Hughes mewn Diwrnodau Rhyngwladol, a oedd yn cynnwys gweithdai ar iaith a diwylliant Tsieina. Cynhaliwyd y sesiynau ar 10 a 12 Gorffennaf, gan drochi鈥檙 myfyrwyr yn yr iaith Mandarin a rhoi cyfle iddynt archwilio crefftau Tsieineaidd traddodiadol.
Mae'r digwyddiad yn tanlinellu ymrwymiad Ysgol David Hughes i ddathlu amrywiaeth a meithrin dealltwriaeth fyd-eang. Bu鈥檙 disgyblion yn cymryd rhan mewn sesiynau Mandarin rhyngweithiol a oedd wedi'u teilwra i wahanol grwpiau oedran a gwahanol lefelau o ran sgiliau iaith, gan feistroli cyfrif ac ynganu ac ennill gwerthfawrogiad dyfnach o ddiwylliant Tsieina.
Cafodd y cyfranogwyr hefyd fwynhau gweithgareddau ymarferol megis crefftio breichledau Tsieineaidd, a dysgu am grefftwaith ac arwyddoc芒d diwylliannol yr arteffactau hyn.
Roedd yr adborth gan y disgyblion oedd yn bresennol yn hynod gadarnhaol, gan ddangos fod y gweithdai wedi ehangu safbwyntiau diwylliannol y disgyblion a gwella eu hyfedredd yn yr iaith Mandarin. Cyfoethogodd y digwyddiad eu profiad addysgol a dyfnhau eu parch tuag at draddodiadau diwylliannau eraill.