Ar Draws Ffiniau: Sefydliad Confucius ym Mhrifysgol Bangor a Phrifysgol Gwyddorau Cyfreithiol a鈥檙 Gyfraith Tsieina (CUPL) yn Herio Myfyrwyr i Feddwl yn Feirniadol!
Mae Sefydliad Confucius ym Mhrifysgol Bangor a Swyddfa Sefydliad Confucius ym Mhrifysgol Gwyddorau Cyfreithiol a鈥檙 Gyfraith Tsieina (CUPL) yn falch o gyhoeddi y cynhaliwyd ysgol haf ar-lein llwyddiannus ar feddwl yn feirniadol. Cynhaliwyd y digwyddiad pythefnos o hyd rhwng 1 Gorffennaf a 12 Gorffennaf. Nod y fenter gydweithredol hon oedd cyfoethogi tirwedd ddeallusol y myfyrwyr a oedd yn cymryd rhan trwy archwilio sgiliau meddwl yn feirniadol mewn ffordd ddiddorol ar draws meysydd amrywiol.
Yn ystod y rhaglen, bu myfyrwyr yn rhoi sylw i bynciau a oedd yn ysgogi'r meddwl megis "Beth yw Real?", "Hunaniaeth Bersonol", "Ewyllys Rydd", ac ymholiadau athronyddol eraill sy鈥檔 herio doethineb confensiynol. Dyluniodd Anthony Brooks o鈥檙 Ganolfan Iaith Saesneg i Fyfyrwyr Tramor (ELCOS) y cwricwlwm a鈥檌 gyflwyno i feithrin sgiliau dadansoddol, annog deialog agored, ac ehangu safbwyntiau ar y cwestiynau athronyddol oesol hyn.
Ychwanegodd Dr Lina Davitt, sef Cyfarwyddwr Sefydliad Confucius Prifysgol Bangor, "Mae鈥檙 cydweithio rhwng CUPL a Phrifysgol Bangor wedi bod yn hynod werth chweil. Mae ein hymdrechion ar y cyd i feithrin sgiliau meddwl yn feirniadol wedi eu gwella'n fawr gan gyfranogiad brwdfrydig a chyfraniadau meddylgar pawb a fu鈥檔 cymryd rhan."
Y tu hwnt i archwilio academaidd, bu'r ysgol haf hefyd yn hwyluso cyfnewid diwylliannol ac yn cryfhau'r cysylltiadau academaidd rhwng CUPL a Phrifysgol Bangor. Cafodd y rhaglen ei chanmol gan y cyfranogwyr am ei chynnwys cyfoethog, ei sesiynau rhyngweithiol, a鈥檙 cyfle i gysylltu 芒 chyfoedion ac arbenigwyr o gefndiroedd amrywiol.