Rhyfeddodau'r Byd: Gweithdai Sefydliad Confucius yn Ysgol Bodedern!
Ymunodd Sefydliad Confucius ag Ysgol Bodedern i ddathlu Diwrnod y Byd trwy gyflwyno cyfres o weithdai diwylliannol a chyflwyno cyfoeth treftadaeth Tsieina i'r myfyrwyr.
O feistroli symudiadau gosgeiddig caligraffeg Tsieineaidd i ddod o hyd i lonyddwch mewnol trwy gyfrwng Baduanjin Qigong, a hyd yn oed grefftio pandas clai a breichledau Tsieineaidd, cafodd y disgyblion eu tywys ar daith a oedd yn dangos diwylliant Tsieina ar ei orau.
Roedd Dr Davitt, Cyfarwyddwr Sefydliad Confucius, yn llawn brwdfrydedd ynghylch y cydweithrediad: 'Roeddem wrth ein boddau鈥檔 cael cynnig y gweithdai hyn i Ysgol Bodedern a rhannu'r agweddau amrywiol hyn ar ddiwylliant Tsieina. Roedd yn gyfle gwych i fyfyrwyr werthfawrogi ac ymgysylltu 芒 chyfoeth diwylliannau'r byd.'
Ychwanegodd Stacey Matthews, athrawes blwyddyn 7 o Ysgol Bodedern, "Sesiynau anhygoel! Dysgodd ein myfyrwyr iaith a sgiliau鈥攜n hynod o ddifyr. Diolch i chi!"