Wrth i Brifysgol Bangor barhau i dyfu a datblygu Ysgol Feddygol newydd Gogledd Cymru, mae cynnig Fferylliaeth ochr yn ochr â’r rhaglenni Meddygaeth ac Iechyd Cysylltiedig yn rhan o strategaeth y sefydliad i sicrhau bod cyfleoedd i ymgeiswyr lleol fynd i mewn i’r meysydd pwysig hynny a bod graddedigion yn cyflawni anghenion gweithlu Gogledd Cymru a thu hwnt.
Dywedodd yr Athro Stephen Doughty, Pennaeth Rhaglen Fferylliaeth Prifysgol Bangor “Bydd y rhaglen hon yn diwallu’r angen lleol a chenedlaethol a bydd yn sicrhau bod gan Ogledd Cymru sylfaen gref ar gyfer addysg ac ymchwil fferyllol. Bydd hyn yn sicrhau bod anghenion cleifion a darpar fyfyrwyr yn cael eu diwallu ar gyfer y dyfodol.”
Daw’r datblygiadau diweddar yn sgil ymweliad llwyddiannus gan y Cyngor Fferyllol Cyffredinol (GPhC) fel rhan o’r broses achredu sy’n ofynnol. Mae’n ganlyniad cadarnhaol sy’n galluogi’r Brifysgol i ddechrau’r broses o recriwtio myfyrwyr i’r radd fferylliaeth MPharm i gychwyn fis Medi 2025 a pharhau i weithio tuag at achredu'r rhaglen gyda'r CFfC. Caiff y rhaglen ei hachredu dros dro hyd nes bydd y broses achredu’n gyflawn.
Bydd y rhaglen MPharm yn cyd-daro â Safonau newydd y GPhC ar gyfer Addysg a Hyfforddiant Cychwynnol i Fferyllwyr a bydd yn cefnogi iechyd a llesiant rhanbarthol y boblogaeth trwy baratoi graddedigion fferylliaeth at eu rolau fel rhan o dimau gofal iechyd integredig i hwyluso gofal y cleifion. Mae Prifysgol Bangor yn cynnig addysgu sylweddol trwy brofiad gyda phartneriaid gan gynnwys Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC), fferyllfeydd cymunedol, meddygfeydd y meddygon teulu ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC). Ar y cyd â BIPBC, bwriad Prifysgol Bangor yw mai hi fydd darparydd mwyaf blaenllaw addysg fferylliaeth o safon yn y Gogledd.
Mae cyfranogiad y rhanddeiliaid yn ffurfio athroniaeth strwythur y rhaglen MPharm. Cafodd colofnau craidd Y Claf, Y Fferyllydd a'r System Gofal Iechyd eu trawsgrifio i fodiwlau 'Cleifion, eu Meddyginiaethau a'u Gofal (PMC)' y bydd y myfyrwyr yn eu dilyn. Cafodd rhagor o fanylion cwricwlaidd arloesol eu datblygu i sicrhau bod y rhaglen ar flaen y gad o ran hyfforddiant fferylliaeth modern. Bydd y rheini’n fodiwlau integredig ac amlddisgyblaethol lle caiff elfennau ymarfer fferylliaeth, ffarmacoleg, fferylleg a chemeg fferyllol eu cyfuno gyda’r ffocws ar y claf a’i ofal. Bydd proffesiynoldeb a chyfleoedd i ymarfer defnyddio’r Gymraeg yn elfennau craidd a fydd yn greiddiol i’r rhaglen.
Dywedodd Lois Lloyd, Prif Fferyllydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: “Dyma newyddion gwych i Ogledd Cymru ac edrychwn ymlaen at weithio mewn partneriaeth â Phrifysgol Bangor i gefnogi'r rhaglen. Bellach mae gennym ni gyfle i fuddsoddi’n lleol yn hyfforddiant fferyllwyr yng Ngogledd Cymru ac i ddatblygu’r gweithlu medrus clinigol sydd ei angen arnom ni, a’r Gwasanaeth Iechyd ehangach, i’r dyfodol.”
Manylion pellach am y rhaglen
Prifysgol Bangor yn Lansio Gradd Fferylliaeth Newydd at Anghenion Gofal Iechyd Lleol a Chenedlaethol
Mae gradd Fferylliaeth newydd Prifysgol Bangor wedi cael sêl bendith, ac mae myfyrwyr ar fin dechrau eu hastudiaethau fis Medi 2025. Y rhaglen radd Meistr pedair blynedd mewn Fferylliaeth (MPharm) yw'r prif lwybr y mae myfyrwyr yn ei ddilyn i ddod yn fferyllwyr.