Dr Adam Coward, 'Plas a'r Dref: Effaith Teulu y Vane-Tempests ym Machynlleth' (11eg Gorffennaf 2024)
Gwahoddir pawb i Y Plas ym Machynlleth, ar dydd Iau yr 11eg o Orffennaf, gan y bydd Dr Adam Coward yn cyflwyno papur yn archwilio hanes Machynlleth yn ystod cyfnod Fictoria, a edrych ar ddylanwad parhaol un teulu pennodol ar wyneb y dref.Ìý
Gyda’r teitl 'Plas a'r Dref: Effaith Teulu Vane-Tempest ym Machynlleth', bydd Adam yn edrych ar stori George Henry Vane-Tempest, 5ed Marcwis Londonderry, ei wraig Mary Cornelia, a'r effaith sylweddol a gafodd eu teulu ar Fachynlleth. a'i amgylchedd adeiledig yn y cyfnod modern.
Mae Dr Adam N. Coward yn hanesydd annibynnol sydd wedi cyhoeddi’n helaeth ar hanes Cymru’r ddeunawfed ganrif a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac mae’n gweithio i Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru (CBHC). Ar ben hynny, mae’n gyfaill hir Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymreig (ISWE), ar ôl gweithio’n agos gyda llawer o’n haelodau ar nifer o brosiectau, tra hefyd yn cydweithio’n helaeth â’r Ganolfan Astudio Tai Hanesyddol Gwyddelig ac Ystadau (CSHIHE) ym Mhrifysgol Maynooth, gan felly ddarparu cyswllt amhrisiadwy rhwng y ddau Sefydliad. Yn fwyaf diweddar mae Adam wedi cynnal dau brosiect ymarfer cwmpasu hynod ddiddorol a hanfodol bwysig ar gyfer ISWE, CHSHIHE a phartneriaid eraill, sydd wedi datgelu cysylltiadau hanesyddol arwyddocaol sy’n bodoli rhwng Ystadau Cymru ac Iwerddon. Yn wir, mae’r gwaith hwn yn rhan o brosiect hirdymor a luniwyd gan Adam er mwyn amlygu’r cysylltiadau hollbwysig yma drwy wahanol deuluoedd tirfeddiannol, lle mae’r ystâd Londonderry ond yn un enghraifft o lu o gysylltiadau economaidd, gwleidyddol a diwylliannol arwyddocaol rhwng aristocratiaeth y ddwy genedl.
Mae darlith Adam yn rhan o ddigwyddiadau Cyngor Tref Machynlleth sy’n dathlu 150 mlynedd ers codi’r Tŵr Cloc enwog, heb os nac oni bai, cyfraniad gweledol mwyaf parhaol y teulu Vane-Tempest i dirwedd y dref. Yn unol â hynny, bydd y sgwrs yn canolbwyntio ar yr effaith fawr a gafodd ystâd y teulu ym Maldwyn a Meirionnydd, ac, yn arbennig, ar gymuned Machynlleth, gan archwilio’r dylanwad ar y dref, a’r cymynroddion parhaol gadawsantmewn ffurf adeiladau, sefydliadau, ac enwau lleoedd, gan gynnwys, yn ddiddorol, un o'r unig gerfluniau cyhoeddus o Gymraes a enwir yng Nghymru.
Mae’r dathliadau yn dechrau am 3yh, gydag Adam yn siarad am 3.30yh. Mae tocynnau ar gael o’r dderbynfa yn Y Plas, ac yn costio £7.50, sy’n cynnwys llu o frechdanau, cacennau a chyflenwad ddiddiwedd o ddiodydd poeth! Cynghorir y rhai sy’n dymuno mynychu i frysio, fodd bynnag, gan mai nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar gyfer y digwyddiad hwn, sy’n argoeli i fod yn archwiliad hynod ddiddorol o’r stori anhysbys hyd yn hyn o effaith Ystâd Londonderry ar un o drefi hollbwysig y Fro Gymraeg.
Y Plas (8yb–4yh)
Stryd Pentrerhedyn,
Machynlleth,
SY20 8ER
Rhif Ffon: 01654 702571
Ìý