Dyfarnu gwobr Efydd Athena Swan i ddwy Ysgol academaidd i gydnabod gwaith cydraddoldeb rhyw
Mae Ysgol Iaith, Diwylliant a鈥檙 Celfyddydau wedi llwyddo i sicrhau gwobr Efydd Athena Swan, ac mae'r Ysgol Gwyddorau Eigion wedi llwyddo i adnewyddu ei Gwobr Efydd. Mae'r gwobrau hyn yn dangos yr ymrwymiad parhaus i gydraddoldeb rhyw yn y ddwy ysgol.
Mae Athena Swan yn siarter ledled y Deyrnas Unedig sy鈥檔 annog ac yn cydnabod ymrwymiad i hyrwyddo cydraddoldeb rhyw o fewn addysg uwch ac ymchwil. Mae Prifysgol Bangor yn meddu ar Wobr Sefydliadol Arian, gyda'r Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg, yr Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol, Ysgol Gwyddorau鈥檙 Eigion, yr Ysgol Seicoleg a Gwyddor Chwaraeon, yr Ysgol Gwyddorau Iechyd, a鈥檙 Ysgol Busnes yn meddu ar Wobrau Efydd.
Dywedodd yr Athro Ruth McElroy, Pennaeth Ysgol Iaith, Diwylliant a鈥檙 Celfyddydau, 鈥淢ae cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn rhan annatod o鈥檔 hymchwil a鈥檔 haddysgu. Mae'r wobr hon yn cadarnhau ein hymrwymiad parhaus i sicrhau bod y gwerthoedd hyn yn cael eu hyrwyddo a'u gwreiddio ymhlith staff a myfyrwyr yr Ysgol. Hoffwn ddiolch i'r holl staff am eu hymrwymiad i鈥檙 broses gwneud cais, a diolch arbennig i aelodau'r t卯m hunanasesu."
Dywedodd yr Athro John Turner, Pennaeth Ysgol Gwyddorau鈥檙 Eigion, " Rydym yn falch iawn o fod wedi adnewyddu ein Gwobr Efydd Athena Swan, sy鈥檔 adlewyrchu ein hymrwymiad parhaus i wella cydraddoldeb, cefnogi cydweithwyr benywaidd ac ysgogi newid diwylliannol ehangach o fewn ein cymuned. Rwy鈥檔 falch iawn o鈥檙 cynnydd yr ydym wedi鈥檌 wneud, a hoffwn ddiolch i鈥檔 t卯m hunanasesu, dan arweiniad Dr Margot Saher, am eu gwaith caled.鈥
Ychwanegodd yr Athro Andrew Edwards, Dirprwy Is-ganghellor dros Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, 鈥淟longyfarchiadau i鈥檙 ddwy ysgol ar eu ceisiadau llwyddiannus. Mae鈥檙 gwobrau hyn yn dangos bod ein Prifysgol wedi ymrwymo'n llwyr i barhau 芒'n gwaith yn y maes hwn ac i ymgorffori cydraddoldeb ym mhopeth a wnawn."
Sefydlwyd Siarter Athena Swan yn 2005, yn wreiddiol i ganolbwyntio ar hyrwyddo gyrfaoedd merched sy鈥檔 gweithio mewn gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, mathemateg a meddygaeth (STEMM) mewn addysg uwch. Ers hynny, mae wedi ehangu i gynnwys staff pob gwasanaethau proffesiynol a phob adran academaidd, gan gefnogi cynwysoldeb ar gyfer pob hunaniaeth rhywedd, a mynd i'r afael ag anghydraddoldebau croestoriadol.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag athenaswan@bangor.ac.uk