Cafodd Afon Conwy yng ngogledd Cymru ei harolygu gan wyddonwyr i ganfod gwybodaeth enetig newydd i鈥檞 defnyddio i fonitro afonydd d诺r croyw ledled y byd. Bu sefydliadau lluosog wrth y gwaith, o dan arweiniad Prifysgol Bangor, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Birmingham a Chanolfan Ecoleg a Hydroleg y Deyrnas Unedig. Caiff ei gyhoeddi yn .听听
Mae gweithgareddau dynol fel y newid yn yr hinsawdd ac addasu cynefinoedd yn peri bod poblogaethau o rywogaethau d诺r croyw鈥檔 dirywio ledled y byd. Felly mae angen i gadwraethwyr a gwyddonwyr gynnal arolygon ecolegol sylfaenol, er mwyn monitro a gwella'r amgylcheddau hynny, ond mae dulliau traddodiadol o gynnal arolygon d诺r croyw鈥檔 dibynnu ar arbenigedd unigol a gallant gymryd cryn amser.
Gall samplu鈥檙 d诺r a鈥檙 gwaddodion am DNA hybrin gynnig dealltwriaeth ddyfnach o lawer inni o鈥檙 rhywogaethau sy鈥檔 gysylltiedig 芒鈥檙 amgylchedd hwnnw. Gall DNA amgylcheddol, neu eDNA ddatgelu presenoldeb rhywogaethau sy鈥檔 rhy fach i鈥檞 gweld 芒鈥檙 llygaid dynol a gall ganfod anifeiliaid a phryfed mwy o faint a fu鈥檔 symud drwy鈥檙 gofod hwnnw, gan gynnwys eogiaid a larf芒u gwas y neidr, oherwydd y darnau bach iawn o DNA maent yn eu gadael ar eu h么l yn yr amgylchedd.
Mae dadansoddiadau eDNA eisoes yn cael eu defnyddio mewn llynnoedd ac yn y m么r. Er mwyn eu defnyddio'n effeithiol mewn afonydd, roedd angen datrys un cwestiwn - pa mor bell i waered afon mae eDNA yn teithio cyn iddo fynd yn ddisylw?
Trwy samplu dwys ar Afon Conwy a chymharu鈥檙 data canlyniadol gydag afonydd cymharus eraill yng Nghymru (Tywi), Lloegr (Gwash), y Swistir (Glatt) ac UDA (Skaneateles), atebodd y t卯m o Brifysgol Bangor, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Birmingham ac UKCEH y cwestiwn.
Datgelodd y gwaith nad yw eDNA yn goroesi fawr ddim y tu hwnt i gilometr i waered afon. Felly gall ecolegwyr fod yn sicr bod y rhywogaethau sydd mewn sampl eDNA yn gynrychioliadol o ble y cymerwyd sampl y d诺r, ac nid o gynefinoedd lawer cilometr i fyny'r afon.
Dywedodd Dr William Perry, Cydymaith Ymchwil 脭l-ddoethurol yn Sefydliad Ymchwil D诺r Prifysgol Caerdydd ac awdur arweiniol yr astudiaeth,
鈥淢ae canlyniadau'r papur hwn yn ei gwneud hi'n bosibl i ecolegwyr ac eraill ddechrau defnyddio arolygon eDNA yn fwy hyderus mewn afonydd ledled y byd. Mae鈥檔 dangos ei bod yn bosib cael data cynhwysfawr yngl欧n 芒鈥檙 organebau sydd yn ein hafonydd, sy鈥檔 rhoi cyfle teg inni atal yr effeithiau niweidiol a achosir gan weithgarwch dynol.鈥
Dywedodd yr Athro Simon Creer, arweinydd Gr诺p Esblygiad ac Ecoleg Foleciwlaidd Prifysgol Bangor a chydlynydd grant Amlygu Pwnc Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol a fu鈥檔 arwain y consortiwm,
鈥淵r unig ffordd i ddeall taith a dyfalbarhad eDNA mewn ecosystemau go iawn yn llawn oedd cynnal y math yma o astudiaeth - samplu tacsa yn rheolaidd o bob rhan o鈥檙 goeden fywyd, o feintiau gofodol lluosog ac ar amseroedd mynych ledled y cylch blynyddol. Mae ein canlyniadau鈥檔 datgelu鈥檙 berthynas rhwng olion eDNA a鈥檙 miloedd o anifeiliaid sy鈥檔 byw yn ecosystemau afonydd y byd, a dilysu鈥檙 defnydd o ddadansoddiadau eDNA afonol i asesu bioamrywiaeth ar lefel yr ecosystem鈥.
Dywedodd yr Athro Jack Cosby, biogeogemegydd yn UKCEH a chyd-awdur y gwaith,
鈥淢ae鈥檙 project yn amlygu pwysigrwydd cynyddol eDNA fel arf i astudio prosesau ecolegol, biogeogemegol a hydrolegol o faint genynnau hyd at faint tirwedd. Mae dulliau integredig o鈥檙 fath o gynnal ymchwil amgylcheddol yn cynnig dealltwriaeth gyfannol inni o ran sut mae pwysau鈥檔 dylanwadu ar adnoddau naturiol ac yn helpu llywio arferion polisi a rheolaeth i鈥檞 hamddiffyn.鈥
Afonydd Cymru鈥檔 cynnig tystiolaeth ar gyfer monitro afonydd yn fwy effeithiol
Sefydlu sylfaen ar gyfer cludo eDNA afonol