Dydym ni dal ddim yn gwybod yn union sut y gallai paneli arnofiol effeithio ar yr ecosystem mewn llyn naturiol, mewn amodau a lleoliadau gwahanol. Ond mae’r cynnydd posibl mewn cynhyrchu ynni o baneli ffotofoltäig arnofiol yn glir, felly mae angen inni roi’r ymchwil honno ar waith fel y gellir mabwysiadu’r dechnoleg hon yn ddiogel. Fe wnaethom ni ddewis 10% o arwynebedd llyn fel lefel debygol o ddefnydd diogel, ond efallai y bydd angen lleihau hynny mewn rhai sefyllfaoedd, neu gallai fod yn fwy mewn sefyllfaoedd eraill.
Pan ystyriwyd y ffigurau fesul gwlad, gallai pum gwlad ddiwallu eu holl anghenion trydan o baneli ffotofoltäig arnofiol, gan gynnwys Papua Gini Newydd, Ethiopia a Rwanda. Byddai eraill, fel Bolivia a Tonga, yn dod yn agos iawn, gan ddarparu 87% a 92% o'r galw am drydan.
Gallai llawer o wledydd, yn bennaf o Affrica, y Caribî, De America a Chanolbarth Asia, fodloni rhwng 40% a 70% o'u galw trydan blynyddol trwy baneli ffotofoltäig arnofiol. Yn Ewrop, gallai'r Ffindir fodloni 17% o'i galw am drydan gan y paneli hyn a Denmarc, 7%.
Fe allai’r DU gynhyrchu 2.7 TWh o drydan bob blwyddyn, darganfu’r ymchwilwyr. Er bod hyn ychydig o dan 1% o'r galw cyffredinol am drydan, byddai'n darparu trydan ar gyfer tua miliwn o gartrefi, yn seiliedig ar amcangyfrif presennol Ofgem o'r defnydd trydanol cyfartalog fesul cartref o 2,700 kWh.
Ar hyn o bryd ychydig iawn o osodiadau paneli ffotofoltäig arnofiol sydd yn y DU. Y mwyaf yw fferm solar arnofiol 6.3MW ar gronfa ddŵr y Frenhines Elizabeth II, ger Llundain.
Dywedodd Dr Woolway: “Hyd yn oed gyda’r meini prawf a osodwyd gennym ni i greu senario realistig ar gyfer defnyddio paneli ffotofoltäig arnofiol, mae buddion cyffredinol, yn bennaf mewn gwledydd incwm is gyda mwy o heulwen, ond hefyd yng ngwledydd Gogledd Ewrop hefyd. Roedd y meini prawf a ddewiswyd gennym ni yn seiliedig ar waharddiadau amlwg, megis llynnoedd mewn ardaloedd gwarchodedig, ond hefyd ar yr hyn a allai leihau cost a risgiau defnyddio.”
Dywedodd y cyd-awdur, yr Athro Alona Armstrong o Brifysgol Caerhirfryn: “Mae ein gwaith yn dangos bod llawer o botensial ar gyfer paneli ffotofoltäig arnofiol ledled y byd. Ond mae angen dewis lleoliadau yn strategol, gan ystyried y canlyniadau ar gyfer diogelwch ynni, natur a chymdeithas, yn ogystal â Net Zero. ”
Ariennir yr ymchwil gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol (NERC), fel rhan o gronfa Ymchwil ac Arloesi’r Deyrnas Unedig.