Mae’r gwelliannau a wnaed ganddynt wrth wella rhagolygon tonnau, yn eu hymgais i gynorthwyo ag ymdrech y rhyfel, bellach yn cael eu hystyried yn gychwyn ar gefnforeg ffisegol yma yn y Deyrnas Unedig.
Cefnforeg Ffisegol ym Mangor
Ym 1963 crëwyd adran newydd Cefnforeg Ffisegol ym Mhrifysgol Bangor gyda phenodiad Jack Derbyshire fel Pennaeth Adran a’r Athro cyntaf mewn Cefnforeg Ffisegol. Ers hynny, mae astudiaeth cefnforeg ffisegol ym Mhrifysgol Bangor wedi mynd o nerth i nerth.
Mae ymchwil yn yr Ysgol sydd gyda’r orau yn y byd hefyd yn rhychwantu’r byd, o’r Arctig i’r Antarctig, o fesur cymysgu dyfroedd ar raddfa centimedr i astudio llanw’r byd drwy hanes y Ddaear, a nodweddu adnoddau ynni morol ac effeithiau eu defnydd.
Ychwanegodd yr Athro Tom Rippeth,
“Roedd Jack yn ffigwr adnabyddus yn y gymuned leol yma ym Mhorthaethwy nes y bu farw yn 2004. Yr hyn sy’n llai adnabyddus yw ei waith gyda Grŵp-W yn ystod y rhyfel a bod ei waith sylfaenol ar donnau’r cefnforoedd yn dal i gael ei ddysgu ledled y byd.â€