Wrth i'r wlad baratoi i nodi pedwar ugain mlynedd ers i’r Cynghreiriaid lanio ar dir mawr Ewrop yn yr Ail Ryfel Byd, mae ymchwil wedi amlygu pwysigrwydd grŵp o gomandos gyda chyfres unigryw o sgiliau.
Mae Christian Dunn, sy'n athro gwyddor gwlyptiroedd ym Mhrifysgol Bangor, wedi ysgrifennu am y pwnc ac wedi gwneud rhaglen ddogfen ar gyfer BBC Radio 4 am y stori.
“Cyn glaniadau D-Day ar 6 Mehefin 1944, roedd llawer o waith wedi’i wneud i ddewis y traethau y byddai’r Cynghreiriaid yn glanio arnyn nhw – yn y pen draw dewiswyd arfordir Normandi,” eglurodd yr Athro Dunn.
“Fodd bynnag, credir bod Gwrthsafiad Ffrainc wedi smyglo rhai mapiau daearegol o'r ardal - un ohonyn nhw’n dyddio'n ôl i'r Ymerodraeth Rufeinig - a oedd yn awgrymu bod clai meddal a mawn o dan dywod y traethau.
“Mae mawn yn fath o waddod gwlyptirol sy’n cael ei greu dros filoedd o flynyddoedd, sy’n gallu bod yn ansefydlog iawn.
“Roedd angen i wyddonwyr a chynllunwyr y Cynghreiriaid ddarganfod lle’r oedd y dyddodion clai a mawn hyn ar hyd y traethau er mwyn iddyn nhw beidio â glanio arnyn nhw ar D-Day,” meddai'r Athro Dunn.
Gan nad oedd yr awyrluniau yn ddigon manwl, cafodd criw o gomandos hyfforddiant mewn gwyddor gwlyptirol a phridd, ac yna bu'n rhaid iddyn nhw nofio i'r traethau, o gychod bach neu longau tanfor, i gasglu samplau gwaddod, yn y misoedd cyn y glaniad.
“Rwy’n gweld dewrder y dynion hyn yn anhygoel, ond i mi, mae yna ymlyniad emosiynol gyda’r stori gan eu bod nhw’n casglu samplau yn yr un ffordd fwy neu lai ag yr ydw i’n ei wneud nawr - er yn ffodus, dydw i ddim yn mentro cael fy arteithio a chael fy saethu pan rydw i’n gwneud hynny," meddai'r Athro Dunn.
Wrth recordio’r rhaglen ddogfen aeth yr Athro Dunn draw i draethau glanio Normandi, lle nofiodd fel y bu i’r comandos nofio, a chasglu samplau yn yr un modd, gan ddefnyddio offer a wnaed yn arbennig gan Royal Eijkelkamp ar gyfer y rhaglen.
“Dw i’n wyddonydd gwlyptiroedd ac yn treulio llawer o fy amser yn cerdded o gwmpas mewn mwd yn fy welingtons, ond mae meddwl bod fy maes gwyddoniaeth wedi helpu i sicrhau llwyddiant brwydr dyngedfennol yn yr Ail Ryfel Byd yn eitha sobreiddiol,” ychwanegodd yr Athro Dunn.
Dywedodd cynhyrchydd gwyddor sain y BBC, Harry Lewis, “Pan ddechreuon ni drafod y syniad hwn gyda Christian roedden ni’n gwybod bod yn rhaid i ni wneud rhaglen ddogfen amdano - mae'n stori mor gyfareddol gyda chymaint o gymeriadau a chwedlau i'w hadrodd: fe allem ni fod wedi gwneud cyfres gyfan amdani.
“Roedd gweithio gyda Christian yn brofiad gwych. Mae mor angerddol dros wyddoniaeth a hanes fel ei fod yn gwneud i’r stori ddod yn fyw – a dweud y gwir, wnes i erioed feddwl y gallai unrhyw un wneud mwd mor ddiddorol!”
Mae'r Athro Dunn yn darlithio ar ystod o bynciau yn Ysgol y Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol ym Mhrifysgol Bangor.
Darlledir y rhaglen The Beaches ar BBC Radio 4 am 1:30pm ddydd Sul, 2 Mehefin a’i hailddarlledu am 4:00pm ddydd Llun, 3 Mehefin, cyn bod ar gael ar .