Datblygwyd rhaglen BUILT gan staff a chyn-fyfyrwyr Prifysgol Bangor, ac mae鈥檔 dod 芒 myfyrwyr ynghyd i ffurfio timau trawsddisgyblaethol i weithio ar greu datrysiad i her cynaliadwyedd a bwyd. Cychwynnwyd y rhaglen gan y cyn-fyfyriwr Kailesh Karavadra ac fe'i harweiniwyd gan Dr Andy Goodman. Gwelodd rownd derfynol y rhaglen eleni 34 o fyfyrwyr israddedig ac 么l-radd yn cyflwyno eu cynigion. Cafodd pob un o鈥檙 timau hyn eu mentora gan gyn-fyfyriwr o鈥檙 Brifysgol a鈥檜 helpodd i ddatblygu eu syniadau ac sydd wedi bod wrth law i鈥檞 cynghori a鈥檜 harwain.
Rhoddodd y rhaglen semester o hyd y cyfle i fyfyrwyr ddysgu gwybodaeth fusnes sylfaenol fel rhagweld, cynllunio ac adrodd ar elw/colled, gan ennill gwerthfawrogiad o鈥檙 hyn sydd ei angen i ddechrau cwmni a chael profiad o fynd 芒 syniad trwy feddylfryd dylunio i brototeipio at ddefnydd y farchnad o bosib.
Yn ystod y rhaglen, cafodd myfyrwyr eu gwahodd hefyd i ymuno ag arbenigwyr yn eu maes ar gyfer 14 'golwg manwl' ar bynciau i'w helpu i arwain eu projectau. Arweiniwyd nifer o'r rhain hefyd gan gyn-fyfyrwyr Prifysgol Bangor.
Daeth y rhaglen BUILT i ben ar 2 Mai gyda phob t卯m o fyfyrwyr yn cyflwyno eu syniadau i banel o feirniaid annibynnol. Yna arddangosodd y timau bosteri i egluro eu gwaith, a chafodd y pump beirniad gyfle i ofyn cwestiynau cyn dewis eu henillwyr.
Enillwyr 2024 oedd 'T卯m Tatws' gyda'u cynnyrch 'Grad Chef', ap sy'n cyfeirio myfyrwyr at gynnyrch a busnesau lleol, gyda nodwedd ryseitiau a fydd yn atal gwastraff bwyd. Derbyniodd y t卯m y brif wobr o 拢10,000 i ddatblygu eu busnes ymhellach. Gwnaethpwyd 鈥淕wobr Mabel Evans am Arloesedd鈥 o 拢10,000 yn bosibl oherwydd rhodd garedig gan y cyn-fyfyriwr Jonathan Wright (1999, Polisi Cymdeithasol/Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol) er cof am ei hen nain, a fu hefyd yn astudio ym Mangor.
Cafodd T卯m Tatws ei fentora gan y cyn-fyfyriwr, Kailesh Karavadra, a ddywedodd 鈥淢ae鈥檙 rhaglen BUILT yn darparu sgiliau dysgu trwy brofiad sydd mor berthnasol yn y byd gwaith heddiw ac rydyn ni鈥檔 credu sy鈥檔 gwahaniaethu ein myfyrwyr wrth iddynt gystadlu am gyflogadwyedd. Gwaith arbennig gan y Brifysgol a llongyfarchiadau mawr i D卯m Tatws. Roedd eu syniad buddugol ar gefnogi Myfyrwyr Cynaliadwyedd yn ymwneud 芒 thyfu bwyd lleol yn wych i鈥檞 weld o鈥檙 had i鈥檙 cynhaeaf!鈥
Dyfarnwyd gwobrau o 拢2,500 i鈥檙 ail orau i Avocado Associates am eu ap WellRooted, i fynd i鈥檙 afael 芒鈥檙 heriau logisteg a dosbarthu a wynebir gan ffermwyr lleol, a Carrot Crusaders a鈥檜 cynnyrch Dragon Nutrition, cymysgedd o lysiau sych, lleol ar ffurf p诺er i鈥檞 ychwanegu at brydau. Dyfarnwyd y 拢5,000 hwn o Gronfa Bangor a weinyddir gan y Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Cyn-fyfyrwyr o roddion gan gyn-fyfyrwyr.听
Noddwyd rownd derfynol BUILT hefyd gan Succession Wealth, cwmni cyngor ariannol cenedlaethol mawr, a WeSpeak, rhaglen sy鈥檔 trawsnewid hyder siarad myfyrwyr prifysgol, a ddarparodd dri lle i fyfyrwyr ar gyfer eu rhaglen Haf 2024.
Dywedodd y prif feirniad, Tim Clay: 鈥淩oedd yn fraint cael bod yn rhan eto o fenter mor wych fel prif feirniad ac roedd yn gwbl amlwg bod y myfyrwyr wedi cael llawer iawn allan o鈥檙 profiad a fydd o fudd iddynt yn eu gyrfaoedd yn y dyfodol. Wrth siarad yn uniongyrchol ag aelodau'r t卯m, roedd eu brwdfrydedd yn eithaf amlwg. Efallai ein bod ni wedi darganfod ychydig o entrepreneuriaid newydd!鈥
Trwy gymryd rhan yn y rhaglen, caiff y myfyrwyr gyfle gwych i dynnu ar arbenigedd ein cyn-fyfyrwyr a dysgu am fyd cyflogaeth trwy fentora gr诺p ac un-i-un gan arbenigwyr yn eu maes.
Oriel Gwobrau BUILT
Gellwch weld y cyfan o'r lluniau o'r digwyddiad yma.
听