Bydd llyfr newydd sy’n rhoi lle haeddiannol yn ein hanes i Griffith Evans (1835-1935) milfeddyg, parasitolegydd arloesol, anturiaethwr ac un o wyddonwyr amlycaf Cymru yn cael ei lansio yn Storiel, Bangor ar 5 Mehefin.
Yn 1880 yn ystod ei gyfnod fel milfeddyg y fyddin yn India, gwnaeth Griffith Evans y darganfyddiad arloesol bod parasitiaid gwaed - a ystyriwyd yn gyffredinol yn ddiniwed ar y pryd - yn bathogenaidd. Wedi bod yn destun dirmyg gan gyfoedion a chydweithwyr, cydnabuwyd ei gasgliadau o arbrofion gyda cheffylau afiach gan sylfaenwyr bacterioleg fodern Robert Koch a Louis Pasteur, ond cymerodd flynyddoedd lawer cyn i'w gyflawniad gael cydnabyddiaeth gyffredinol.
Awdur y gyfrol yw Gavin Gatehouse, cyn Uwch Ddarlithydd mewn Entomoleg Gymhwysol a Pharasitoleg, a chyn Bennaeth Ysgol Gwyddorau Biolegol Prifysgol Bangor, ac mae’n rhan o gyfres Gwyddonwyr Cymru/Scientists of Wales Gwasg Prifysgol Cymru.
Yn fab i ffermwr ger Tywyn, Meirionnydd a aeth ymlaen i weld y byd, daeth Griffith Evans adref i ogledd Cymru ymhen amser, gan greu cysylltiadau cryf â Phrifysgol a dinas Bangor yn ystod ei ymddeoliad hir a chynhyrchiol.
Ar ôl tyfu i fyny ym Meirionnydd, comisiynwyd Evans fel swyddog milfeddygol yn y Magnelwyr Brenhinol. Cafodd ei bostio gyntaf i Ganada lle, yn ei amser hamdden, cymhwysodd mewn meddygaeth. Yn anturiaethwr heb ei ail, aeth i Ogledd America yn ystod y Rhyfel Cartref, gan gwrdd ag Abraham Lincoln a theithio ar hyd rheng flaen yr Undeb. Roedd dawn Evans i ymgysylltu â phobl a diwylliannau yn nodwedd gyson trwy ei yrfa fyd-eang.
Wedi i Griffith Evans ymddeol yn 1890 yn 55 oed, ac yntau wedi crwydro’r byd yn ei waith, prynodd dŷ ym Mangor, Brynkynallt ar Lôn Pobty, er mwyn bod mewn cyswllt agos gyda Choleg y Brifysgol a oedd wedi’i sefydlu yn 1884. Cyfrannodd yn helaeth at waith y Coleg trwy ei gysylltiadau gyda’r darlithwyr, yn arbennig yn yr Adran Amaethyddiaeth, ac fe’i perswadiwyd i ddarlithio i fyfyrwyr yr adran honno am gyfnod o ugain mlynedd fel ‘Instructor in Veterinary Hygiene’. Bu’n aelod o Lys Coleg y Brifysgol, ac yn hael ei gyfraniadau i’r Coleg.
Tu hwnt i’r Coleg, bu Evans yn ddylanwadol trwy ei ymwneud ag amrywiol gymdeithasau a sefydliadau Bangor ac yn uchel ei barch ymysg trigolion yr ardal. Roedd yn gapelwr brwd ac yn cefnogi’r mudiad Rhyddfrydol: byddai Lloyd George yn lletya yn aml yn Brynkynallt ar ei ymweliadau â Bangor.
Yn 1931, ac yntau yn 96 oed, aeth cynrychiolwyr Cyngor Dinas Bangor i ymweld â Griffith Evans yn ei wely yn Brynkynallt i gyflwyno iddo Ryddid Dinas Bangor, anrhydedd a oedd wrth ei fodd. Bu farw yn 1935, yn dilyn ei ben-blwydd yn 100 oed.
Meddai’r Athro Gareth Ffowc Roberts, cadeirydd panel golygyddol cyfres Gwyddonwyr Cymru a gyhoeddir gan Wasg Prifysgol Cymru,
Mae’r gyfrol newydd hon am y gwyddonydd rhyfeddol Griffith Evans yn darllen fel nofel. Roedd Evans yn filfeddyg yn arbenigo mewn afiechydon bacteriol, yn arbennig bacteria a oedd yn lladd ceffylau. Ei gamp oedd dilyn y wyddoniaeth a darganfod ffordd i drin y cyflwr, a hynny er mawr ryfeddod i filfeddygon y cyfnod, nifer ohonynt yn gwrthwynebu ei waith. Cadwodd Evans at ei egwyddorion, doed a ddel. Mae’r cof amdano erbyn hyn wedi pallu ond mawr hyderwn bod cyfrol Gavin Gatehouse yn gyfle i adfywio hanes ysbrydoledig gŵr go arbennig.
Meddai'r Athro Edmund Burke, Is-Ganghellor Prifysgol Bangor,
Rwy’n falch iawn bod Griffith Evans yn cael cydnabyddiaeth haeddiannol drwy gyhoeddiad llyfr Gavin Gatehouse. Edrychaf ymlaen at ddysgu mwy am fywyd, darganfyddiadau a pherthynas Griffith Evans gyda’n sefydliad ni wrth i ni ddathlu 140 mlynedd o ymchwil a dysgu ym Mhrifysgol Bangor.
Bydd y llyfr yn cael ei lansio’n ffurfiol gan am 3pm dydd Mercher 5 Mehefin yn Storiel Bangor. Mae croeso i bawb fynychu.
Mae'r llyfr hwn yn un o gyfres o naw sy'n sôn am wyddonwyr Cymru, gan gynnwys Robert Recorde, ysgolhaig a mathemategydd o’r oes Tuduraidd, William Robert Grove, bonheddwr gwyddoniaeth o oes Fictoria, y naturiaethwr, hynafiaethydd ac ieithydd Edward Lhwyd, Evan James Williams, ffisegydd atomig, William Morgan actiwari, mathemategydd a radical o’r ddeunawfed ganrif, a Griffith Davies, arloeswr a chymwynaswr.