Mae ymchwiliad newydd gan gyfres yn tynnu sylw at ddefnydd cwmnïau mawr o gredydau carbon coedwig amheus sy’n cael eu disgrifio gan ymchwilwyr fel rhai er mwyn honni eu bod yn ‘wyrdd’. Fel rhan o’r rhaglen, mae’r Athro mewn Gwyddor Cadwraeth, Julia Jones, yn trafod ei gwaith ymchwil sy’n pwyso a mesur pa mor dda y mae'r credydau hyn (sy'n anelu at leihau allyriadau o ddatgoedwigo a diraddio) yn gweithio.
Gwahoddwyd Julia i gymryd rhan fel arbenigwr yn y maes hwn, ac meddai: “Mae fy ymchwil yn canolbwyntio ar ddeall effaith cadwraeth yn well. Cefais fy nghyfweld ar gyfer Panorama oherwydd yr , gyda chydweithwyr ym Mhrifysgol Caergrawnt, i amcangyfrif faint o ddatgoedwigo a fyddai wedi digwydd mewn 40 o safleoedd ar draws y trofannau heb y buddsoddiad a ddeilliodd o brynu credydau carbon ar y sector farchnad garbon wirfoddol”.
Mae’r ymchwil hwn yn cael llawer o sylw yng ngoleuni sy’n dangos bod llawer o brosiectau wedi gwerthu mwy o gredydau carbon nag y gellir ei gyfiawnhau gan faint o ddatgoedwigo y maent wedi’i osgoi.”
Mae Julia yn awyddus i bwysleisio na ddylai methiannau gyda’r ffordd y mae credydau carbon o ddatgoedwigo a osgoir yn cael eu cyhoeddi ar hyn o bryd dynnu sylw oddi ar bwysigrwydd arafu colli coedwigoedd trofannol.
“Mae bron yn amhosib gorbwysleisio pa mor bwysig yw hi i ddyfodol ein planed i atal colli coedwigoedd trofannol. Mae coedwigoedd trofannol a'u priddoedd yn cloi llawer iawn o garbon. Mae gwella'r farchnad ar gyfer credydau carbon coedwigoedd yn flaenoriaeth o ystyried y bydd yn debygol o barhau i chwarae rhan mewn ariannu cadwraeth coedwigoedd trofannol yn y tymor byr i ganolig. Fodd bynnag, wrth gwrs, mae problemau gwirioneddol o ran clymu cadwraeth coedwigoedd ag allyriadau parhaus. Mae angen i ni arafu allyriadau tanwydd ffosil a chadw coedwigoedd. Nid yw talu am un, gan ddefnyddio'r llall, yn ddelfrydol.”
I ddarllen mwy am farn Julia ar y mater hwn yn gyffredinol, cliciwch ar ac i weld y rhaglen Panorama ewch i