I nodi Mis Hanes LHDTC+, cynhaliodd Athroniaeth, Moeseg a Chrefydd, Prifysgol Bangor mewn cydweithrediad 芒 Chanolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol Cymru, gyfweliad ar-lein ac am ddim gyda'r Parch. Sarah Jones, a oedd yn hynod ddiddorol ac ysbrydoledig.
Sgwrsiodd y Parch. Sarah Jones am ei chefndir, ei stori'n dilyn ei hordinhad a'r ymatebion amrywiol iddi am fod yn aelod traws o Eglwys Loegr. Yn dilyn hynny, trafododd y Parch. Jones ei hamryfal brosiectau sy'n anelu at gynorthwyo pobl a hyrwyddo cydraddoldeb, cyfiawnder a gofal yn ein cymdeithas.
Wrth sylwi ar y digwyddiad, dywedodd y darlithydd Athroniaeth a Chrefydd a chyd-gyfarwyddwr Canolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol Cymru, Dr Gareth Evans-Jones, 'Dwi'n teimlo'n eithriadol ffodus o fod wedi cael y cyfle i gyfweld Sarah a dod i'w nabod hi'n well. Dwi wedi cyfeirio ati mewn nifer o fy modiwlau, felly roedd yn amhrisiadwy medru sgwrsio gyda a chlywed mwy am ei gweledigaeth ar gyfer cymdeithas a'r heriau rydym yn eu hwynebu.'