Myfyrwyr y Gyfraith yn cystadlu mewn Cystadleuaeth Cyfweld Cleientiaid Cenedlaethol
Bydd Kai Hayes a Millie Thompson yn cynrychioli’r Ysgol yn Gystadleuaeth Cyfweld Cleientiaid Cenedlaethol y flwyddyn hon. Bydd y deuawd yn cystadlu yn y rownd ranbarthol a gynhelir yn Llundain ym mis Chwefror 2024. Bydd y ddau yn cystadlu fel tîm, eu nod yw dangos eu sgiliau yn y digwyddiad cyfreithiol unigryw hwn.
Uchod: Millie myfyrwraig y Gyfraith
Mae'r Gystadleuaeth Cyfweld Cleient yn gystadleuaeth ar gyfer myfyrwyr y gyfraith ledled Cymru a Lloegr. Ei nod yw annog, hyrwyddo a datblygu’r sgiliau sy’n gysylltiedig â chyfweld â chleientiaid, rhywbeth sy’n allweddol os ydych am roi dilyn gyrfa yn y Gyfraith. Mae’n ddigwyddiad blynyddol sy’n canolbwyntio ar sgiliau amhrisiadwy cyfweld a chynghori ac yn canolbwyntio ar efelychiad o gyfweliad swyddfa’r gyfraith.
Uchod: Kai gyda rhai o'i cyd-fyfyrwyr yn y ffug-llus
Mae Kai a Millie yn ddau fyfyriwr rhagorol yn y Gyfraith sydd ag angerdd am y pwnc ac yn cymryd rhan yn rheolaidd mewn gweithgareddau allgyrsiol a gynigir gan yr ysgol. Ar hyn o bryd mae Kai yn arwain cymdeithas y Gyfraith, mae cynnig i bob myfyrwyr ymuno â hi, tra manteisiodd Mille ar y cyfle i fynd ar dymor prawf byr gyda Linenhall Chambers yng Nghaer.