Academyddion y Gyfraith wedi’u Penodi’n Olygyddion Ymgynghorol i’r Halsbury’s Laws Anrhydeddus
Mae Dr Ama Eyo, Uwch Ddarlithydd mewn Cyfraith Caffael Cyhoeddus, a Mr Stephen Clear, Darlithydd mewn Cyfraith Gyfansoddiadol a Gweinyddol, ill dau wedi’u penodi’n Olygyddion Ymgynghorol yrÌýHalsbury’s Laws of England, sy’n wyddoniadur uchel ei fri. Byddant yn cymryd cyfrifoldeb am Gyfrol 85A gyntaf ar y testun Caffael.
Ers dros 100 mlynedd, mae teitlau’r Halsbury’s wedi cael eu hystyried fel yr unig ddatganiad naratif cynhwysfawr o gyfraith Cymru a Lloegr, sy’n cynnwys cyfraith sy’n deillio o bob ffynhonnell. Ysgrifennir y casgliad gan neu mewn ymgynghoriad â chyfreithwyr blaenllaw - ymarferwyr ac academyddion, gan gynnwys bargyfreithwyr ac aelodau o Gwnsler y Brenin - gan sicrhau ansawdd a dibynadwyedd uchaf.
Mae Golygyddion Ymgynghorol ar gyfer cyfrolau eraill wedi cynnwys: sidan cynllunio blaenllaw Saira Kabir Sheikh KC; Dirprwy Farnwr yr Uchel Lys yr Athro David Ormerod KC CBE ar gyfer Cyfraith Droseddol; Yr Athro Cyfraith Gyfansoddiadol Rodger Masterman o Brifysgol Durham; awdurdod blaenllaw’r DU ar y gyfraith sy’n ymwneud â COVID-19, y bargyfreithiwr Adam Wagner o Doughty Street Chambers; yr Athro Christopher Hodges o Brifysgol Rhydychen ar y System Gyfiawnder; a'r arbenigwr blaenllaw ar Gyfraith yr Amgylchedd, yr Athro Richard Macrory o UCL.
Mae Ama a Stephen yn ymgymryd â rôl golygydd ymgynghorol y gyfrol newydd ar adeg gyffrous yn natblygiad y Gyfraith Gaffael, gyda Senedd y DU bellach wedi pasio Deddf Caffael newydd ôl-Brexit 2023.
Ìý