Cyfres Gweithdai Datblygiad Proffesiynol Parhaus Newydd CELT ar gyfer 2024
Beth am wneud adduned blwyddyn newydd i ymrwymo i'ch Datblygiad Proffesiynol Parhaus a chofrestru ar weithdai addysgu a dysgu CELT i staff? Ymhlith y pynciau llosg a fydd yn cael eu trafod yn ystod y tymor mae deallusrwydd artiffisial a realiti estynedig; asesiadau ac adborth; dysgu cynhwysol; ystafelloedd dosbarth rhyngwladol; a sicrhau ansawdd. Cofrestrwch nawr ar gyfer ein gweithdai wyneb yn wyneb ac ar-lein a dysgwch sut allwch chi ddatblygu eich addysgu a鈥檆h dysgu yn bangor.ac.uk/cy/celt
Mae鈥檙 Ganolfan Gwella Addysgu a Dysgu (CELT) yn dechrau'r flwyddyn drwy ail-lansio ei gwefan, gan arddangos y digwyddiadau hyfforddi sydd ar y gweill, y cymrodoriaethau a鈥檙 adnoddau sy'n ymwneud ag addysgu a chefnogi dysgu. Yr Athro Caroline Bowman yw pennaeth dros dro CELT, sef t卯m academaidd sy鈥檔 cynnwys Dr Ama Eyo, Dr Thandi Gilder, Dr Sarah Zylinski, Dr Dei Huws a Dr Rebecca Jones 鈥 goruchwylir y t卯m gan yr Athro Nichola Callow (Dirprwy Is-ganghellor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr).
Dywedodd yr Athro Caroline Bowman, 鈥淎r 么l llwyddiant ein cynhadledd ym mis Medi, mae hwn yn gyfnod cyffrous i CELT. Rydym yn gweld cyfranogiad rhagorol yn ein cynlluniau sy鈥檔 arwain at ddyfarnu Cymrodoriaeth yr Academi Addysg Uwch, ac mae ein gweithdai datblygiad proffesiynol parhaus yn rhoi cyfleoedd i staff o bob maes ddatblygu eu sgiliau er mwyn arloesi eu hymarfer a gwella profiad y myfyrwyr.
鈥淢ae ein gwefan wedi cael ei hailwampio ac mae'n haws nag erioed dod o hyd i wybodaeth am ein cyrsiau, ein rhaglenni datblygu, ein gwobrau a鈥檔 gwaith ar bynciau llosg mewn addysg uwch, megis cynhwysiant ac asesu. Mae鈥檔 anrhydedd gweithio gydag aelodau CELT, y mae eu harbenigedd yn dyrchafu addysgu a dysgu o fewn y Brifysgol, ac mae鈥檔 fraint wirioneddol cael cefnogi staff o bob rhan o鈥檙 Brifysgol wrth i ni fwrw ymlaen i wella addysgeg.鈥