Dysgu Mân Siarad?
Ddydd Iau, 7 Rhagfyr, bu ein Huwch-ddarlithydd Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol, Dr Cynog Prys, yn sgwrsio ar raglen Dros Ginio BBC Radio Cymru am ddatblygiad diweddar lle mae prifysgolion yn America wedi dechrau rhoi gwersi i fyfyrwyr ynglŷn â sut mae gwneud siarad mân (small talk).
Mae prifysgolion America wedi mynegi gofid fod pobl ifanc wedi colli’r ddawn i wneud mân siarad, a hynny am resymau amrywiol, o bandemig Covid-18 i’r defnydd dibynnol o ffonau clyfar. Maent o’r farn ei bod yn bwysig i bobl fedru cael rhyngweithiadau rhwydd ag eraill. Mewn geiriau eraill, iro olwynion rhyngweithiad cymdeithasol.
Beth, felly, ydy siarad mân?
‘Math o gyfnewid llafar rhwng unigolion, y gallu i fod efo pobl nad ydym ni’n eu hadnabod, neu pobl rydym efo perthynas â nhw. Fel arfer, mae siarad mân efo’r bwriad i ymddangos yn gyfeillgar a chroesawgar. Ddim yn siarad am unrhyw beth o bwys – llenwi amser. Fel arfer rydym ni’n trio portreadu ein hunain mewn ffordd bositif (e.e. dwi’n berson neis!)’ meddai Dr Cynog Prys.
Mae mân siarad hefyd yn ddefod gymdeithasol, lle rydym yn cael ein dysgu ei bod yn bwysig inni ei gwneud. Y gofid ydy bod hyn yn digwydd yn llawer llai aml.
‘Am hynny, mae’n bwysig iawn. Mae’n dangos parch at bobl, yn ffordd o fod yn groesawgar, ac o bortreadu ein hunain mewn golau ffafriol,’ ychwanega Dr Cynog Prys. ‘Hefyd, mae cymryd rhan mewn defodau cymdeithasol fel hyn yn atgyfnerthu bod trefn o fewn cymdeithas. Helpu iro olwynion cymdeithas a gofalu bod cymdeithas yn rhedeg yn llyfn.’
Mae siarad mân yn ffenomen gymdeithasol o bwys enfawr a gellir clywed mwy am hyn drwy wrando ar gyfweliad Dr Cynog Prys:  (55:38 i mewn i’r rhaglen).