Fel arbenigwyr mewn ymchwil ac arloesi ym maes technolegau bio-seiliedig, dyma lle camodd Canolfan Biogyfansoddion Prifysgol Bangor i’r adwy:
“Rydym wedi gweithio gyda’r Blankney Estates ers 2007 ar brosiectau amrywiol yn ymwneud â sut y gallwn ychwanegu gwerth at y glaswellt y maent yn ei dyfu. Rydym bellach yn falch iawn o ymestyn y berthynas hon diolch i gyllid gan DEFRA trwy Raglen Arloesi Ffermio Innovate UK, i asesu ymarferoldeb y cwyr glaswellt fel system bioreoli newydd gan ddefnyddio cyfuniad o dreialon mewn tai gwydr ac ar y safle.”
esboniai Dr Adam Charlton o’r Ganolfan Biogyfansoddion, Prifysgol Bangor.
Mae'r prif opsiwn trin a rheoli ar gyfer malltod tatws hwyr yn cynnwys defnyddio cemegau gwrthffyngaidd yn rheolaidd, ond mae'r organeb Phytophthora infestans bellach yn gallu gwrthsefyll y rhan fwyaf o ffwngladdiadau synthetig, ac ar hyn o bryd ychydig iawn o opsiynau sydd ar gael i ddisodli'r rhain, â llawer ohonynt yn cael eu diddymu'n raddol o ganlyniad i ystyriaethau amgylcheddol.
Yr her arall yw pan gânt eu defnyddio gormod, mae ffwngladdiadau synthetig yn berygl i iechyd planhigion, anifeiliaid a phobl, a gallant gael effaith negyddol ar ecosystemau trwy gronni mewn priddoedd a chyrsiau dŵr.
Dywedwyd bod hyd at 20% o allyriadau nwyon tŷ gwydr sy'n gysylltiedig â chynhyrchu tatws yn deillio o allbynnau ynni sy'n gysylltiedig â chynhyrchu a defnyddio gwrtaith a ffwngladdiadau synthetig.
Ychwanegodd Dr Charlton, “Mae asiantau bioreolaeth yn ddewis amgen ac o bosibl, yn ddewis mwy cynaliadwy i'r ffwngladdiadau synthetig a ddefnyddir i frwydro yn erbyn pathogenau planhigion. Gallai’r prosiect hwn hefyd gyfrannu at yr ymrwymiad i gyrraedd allyriadau sero net erbyn 2050 drwy leihau costau mewnbwn ar gyfer triniaethau bio-seiliedig ar gyfer malltod tatws gan ddefnyddio’r ‘dull economi gylchol’ drwy defnyddio’r cynnyrch hwn sydd fel arall wedi’i wastraffu.”