Mewn sgwrs ddifyr, siaradodd Athro Jonathan Roberts am ei waith yn delweddu henebion treftadaeth
Mae safleoedd treftadaeth yn cael eu herydu. Mewn gwirionedd, mae llawer o safleoedd yn beryglus o agos at yr arfordir ac mae’n rhaid i ni eu delweddu’n ddigidol a'u cofnodi cyn iddynt ddiflannu i'r môr. Ein datrysiad yw defnyddio ffotogrametreg.” Jonathan C. Roberts, Athro Delweddu
Aeth yr Athro Roberts ymlaen i ddweud “Rydym yn tynnu llawer o luniau o’r henebion a’r safleoedd, ac yna pan fyddwn yn ôl yn y labordy, rydym yn defnyddio algorithmau i newid y ffotograffau yn fodelau 3D. Mae’r algorithmau’n paru picseli rhwng ffotograffau i adeiladu modelau tri dimensiwn o’r henebion.” Aeth ymlaen i ddweud “Un o'n prif brojectau y soniais amdano yn ystod y cyflwyniad oedd Treftadaeth Gyda'n Gilydd. Roedd y project hwn yn gydweithrediad rhwng archeolegwyr, ymddiriedolaethau lleol a sefydliadau treftadaeth, ac academyddion cyfrifiadura o Fangor, Aberystwyth a Manceinion.”
Y sgwrs hon oedd y ddarlith “Engage” gyntaf. Trefnir y gyfres seminarau gan gangen myfyrwyr IEEE newydd Bangor, a’i chynnal yn yr Ysgol Cyfrifiadureg. Y nod yw ymgysylltu â phobl ar draws y brifysgol a’r gymuned leol, a chynnig llwyfan i ymchwilwyr egluro eu gwaith. Mae'r seminarau’n canolbwyntio ar beirianneg, cyfrifiadura a dylunio.
Meddai Andrew Hall (cadeirydd cangen myfyrwyr a chymdeithas IEEE Bangor).
Mae’r darlithoedd hyn wedi eu hanelu at fyfyrwyr, staff ac ymchwilwyr ar draws yr ysgol a’r brifysgol. Mae'r darlithoedd “Engage” wedi eu cynllunio i fod yn sesiynau cryno sy'n para 30-40 munud yn unig! Cânt eu cynnal bob amser cinio dydd Mercher am hanner dydd, trwy gydol y semester dysgu. Rydym yn chwilio am siaradwyr ar gyfer yr wythnosau i ddod. Cysylltwch â mi neu Bethany Johnson (o gangen myfyrwyr IEEE Bangor) os ydych eisiau rhoi cyflwyniad, neu os ydych yn gyn-fyfyriwr neu berson allanol, a allai roi cyflwyniad!